Skip to Main Content

Yn dilyn y cyfnod clo yng Nghaerffili, ar gyfer preswylwyr Sir Fynwy a oedd ar y rhestr warchod cyn 16 Awst ac sydd felly’n parhau ar y Rhestr Warchod Cleifion, nid oes newid i’r cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ailgyflwyno gwarchod ar hyn o bryd. Byddant yn parhau i gadw golwg ofalus ar y sefyllfa a byddant yn ysgrifennu’n uniongyrchol at bobl ar y rhestr yn Sir Fynwy os yw hyn yn newid.

Yn y cyfamser dylai’r rhai oedd yn flaenorol ar y rhestr warchod ystyried y cyngor a gawsant ar sut i gadw’n ddiogel:

–        Cadw cysylltiadau tu allan i’r cartref i isafswm ac osgoi pob sefyllfa naill ai dan do neu tu allan lle na fedrir cadw pellter ffisegol o 2m o’r rhai o’r tu allan i’ch cartref

–        Defnyddio slotiau siopa blaenoriaeth ar gyfer archfarchnadoedd neu siopa ar adegau tawelach o’r dydd

–        Golchi eich dwylo yn rheolaidd gyda dŵr a sebon am 20 eiliad a defnyddio hylif diheintio dwylo lle nad oes cyfleusterau golchi dwylo ar gael

–        Osgoi cyffwrdd wynebau pethau a gafodd eu cyffwrdd gan bobl eraill.

I gael mwy o gwybodaeth edrychwch ar Ganllawiau Llywodraeth Cymru ar warchod a diogelu pobl  ac i weld cwestiynau cyffredin ewch i

https://gov.wales/people-extremely-vulnerable-covid-19-who-have-been-shielding-faqs