Skip to Main Content

Mae COVID19 pandemig wedi bod yn drasiedi dyngarol sydd wedi cyffwrdd pob cwr o’r byd. Nid yw Sir Fynwy wedi bod heb achosion, gyda 73 o farwolaethau yn y Sir a briodolir i’r feirws a bron i 400 o achosion hysbys yn gyfan gwbl ar gyfer ein preswylwyr. Mae’r colli bywyd hwn yn beth ofnadwy; fel Cyngor Sir rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid.

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor “Mae’r Cyngor Sir wedi newid popeth mae’n ei wneud ers Mawrth 2020 ac wedi canolbwyntio ein holl adnoddau ar ddiogelu bywyd.  Rydym wedi neilltuo blaenoriaethau eraill ac mae ein staff wedi cael eu hadleoli i feysydd lle maent wedi gallu cael effaith gadarnhaol.  Rydym wedi gweithredu gyda chynllun clir ac rydym yn parhau i wneud hynny.  Rydym nawr 4 mis i mewn i’r broses ac mae gennym lawer mwy o fisoedd o’n blaenau wrth i argyfwng iechyd ddod yn argyfwng cymdeithasol ac economaidd.”

Bydd y Cyngor yn ystyried darlun cynnar o effaith ariannol COVID yn ei gyfarfod ar ddydd Iau.  Bydd y Cynghorydd Phil Murphy, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yn cyflwyno papur yn nodi safbwynt lefel uchel sy’n nodi diffyg ariannol yn ystod y flwyddyn o rhwng £3 miliwn a £10 miliwn. Dywedodd y Cynghorydd Murphy “Mae gan y Cyngor hanes cryf o ddisgyblaeth ariannol. Nid ydym wedi gorwario ein cyllideb flynyddol am fwy na degawd ond mae’r sefyllfa hon y tu hwnt i unrhyw un o’n cynlluniau.  Yr ydym wedi colli bron pob un o’n ffynonellau incwm; rydym wedi cefnogi ein system gofal cymdeithasol i ddiwallu ei hanghenion ac rydym wedi dod o hyd i le i bob person digartref i aros. Nid ydym wedi cael yr hyblygrwydd i leihau unrhyw un o’n costau sefydlog sy’n sylweddol.  Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth y DU am roi dros £210 miliwn o gymorth ariannol i Lywodraeth Cymru, wedi’i dargedu’n uniongyrchol i Lywodraeth Leol. Rydym wedi derbyn gair Llywodraeth Cymru y byddant yn cefnogi pob cyngor yng Nghymru ac yn gwneud iawn am ein pwysau eithriadol o ran cost. Nid oes gennyf unrhyw reswm dros gredu na fydd Llywodraeth Cymru yn anrhydeddu’r addewid hwn, ond byddwn yn gofyn iddynt gyflwyno hyn ar frys nawr er mwyn i ni fod yn glir ynghylch yr hyn yr ydym yn mynd i gael, a chael sicrwydd ynghylch faint yn fwy y mae angen i ni ei gael ein hunain. Rwyf hefyd yn gofyn bod Llywodraeth Cymru yn creu’r gallu i bob cyngor ddelio ag unrhyw orwariant gweddilliol dros nifer o flynyddoedd fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau pwysig ac angenrheidiol yn hytrach na’u tynnu’n ôl pan fydd eu hangen fwyaf.  Gyda phob diwrnod sy’n mynd heibio, mae’r her o wneud arbedion yn ystod y flwyddyn yn tyfu. Rwyf wedi cychwyn ymarfer cynaliadwyedd ariannol llawn ac rwyf wedi gofyn i swyddogion gwblhau’r gwaith hwn ar gyfer mis Medi, felly gall y Cyngor lunio barn ar ei gamau nesaf ond rwy’n disgwyl i’r rhain gynnwys defnydd sylweddol o’n cronfeydd wrth gefn cymharol fach.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox “Mewn dros ddeuddeg mlynedd fel Arweinydd y Cyngor hwn, nid wyf erioed wedi bod yn fwy balch o staff, pobl y sir hon, gwirfoddolwyr a busnesau. Mae pawb wedi gwneud ymdrech arbennig i fynd i’r afael â’r pandemig hwn, ac fel y mae pethau’n sefyll nawr, mae o dan reolaeth a gall ein trefi ddechrau symud eto.  Fodd bynnag, rhaid i ni fod yn wyliadwrus ac mae angen yr arian arnom i ddarparu cymorth i bobl y mae ei angen arnynt ac i reoli’r feirws os bydd yn dychwelyd. Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn camu ymlaen a gwneud hyn yn bosibl.”