Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Tref lleol i ddatrys un o’r problemau mwyaf yng Nghas-gwent – gwm cnoi sy’n cael eu taflu’n ddiofal ar ffyrdd a phalmentydd.  Mae presenoldeb gwm cnoi ar strydoedd y DU yn ail o ran amlder, gydag ond bonion sigaréts i’w gweld yn fwy aml,  ond mae’n llawer mwy anodd ei glirio o’r amgylchedd.  Yn ogystal â bod yn frwnt, ac yn anghyfleustra i’r rheini sy’n dod i gysylltiad â gwm cnoi, mae’n hanfodol bwysig bod pobl yn cael gwared arno’n hylan, yn enwedig gan fod y feirws Covid-19 yn parhau i fod yn fygythiad.

Er bod ffon o gwm cnoi ond yn costio tua saith ceiniog, mae clirio pob darn o’n strydoedd a’n palmentydd yn costio nes at ddeg ceiniog.  Ychydig cyn cyfnod cloi’r pandemig, gofynnodd Cyngor Tref Cas-gwent i’r Cyngor Sir helpu i gael gwared ar gwm cnoi drwy ei lanhau â stêm, ond mae arolwg diweddar wedi datgelu bod 3,438 o ddarnau gwm cnoi wedi’u gwasgu i mewn i graciau palmant, rhwng coblau ac mewn arwynebau tarmac mewn rhannau penodol o’r dref.

Mae Cyngor Tref Cas-gwent wedi gosod arwyddion yn Sgwâr y Banc, Heol Eglwys Fair, Stryd y Cymry a’r orsaf fysiau er mwyn atgoffa siopwyr, yn ogystal â’r rhai mewn caffis a’r tafarndai, i osod gwm cnoi a ddefnyddiwyd i mewn i’r bin.  Mae’r melysydd blaenllaw Mars Wrigley, gwneuthurwyr brandiau gwm cnoi mwyaf poblogaidd y DU, wedi darparu’r arwyddion sydd wedi cael effaith ffafriol mewn mannau eraill o ran newid ymddygiad.

Yn ogystal ag arwyddion, mae’r Cyngor Tref yn buddsoddi mewn biniau Gumdrop – cynwysyddion cyntaf y byd sydd wedi’u dylunio, nid yn unig yn benodol ar gyfer gwaredu gwm cnoi gwastraff, ond hefyd wedi cael eu gwneud â gwm cnoi gwastraff.  Caiff gwm cnoi a gesglir yn y biniau siâp pêl binc arbennig ei ailgylchu i fod yn esgid glaw, gorchuddion ffonau symudol ac amrywiaeth o gynhyrchion defnyddiol eraill gan y cwmni ailbrosesu amgylcheddol Gumdrop.  Mae nifer o’r biniau hyn yng Nghil-y-coed cyfagos eisoes wedi lleihau faint o gwm cnoi a gaiff ei daflu i’r ddaear.

Bydd y ddau gyngor yn cynnal arolwg arall ymhen ychydig fisoedd i asesu’r gwahaniaeth y mae’r biniau a’r arwyddion wedi’u gwneud.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, yr Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda Chyngor Tref Cas-gwent i geisio gwella’n strydoedd a’n palmentydd lleol.  Mae cael gwared ar gwm cnoi drwy ei daflu ar y ddaear yn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â pherygl i iechyd.  Gadewch i ni wneud ymdrech ar y cyd i roi ein gwm cnoi a ddefnyddiwyd mewn lle addas -yn y bin.”