Skip to Main Content


Bydd Cyngor Sir Fynwy yn lansio ail gyfnod ei wasanaeth llyfrgell Gofyn a Chasglu ddydd Llun 27 Gorffennaf pan fydd ar gael ar ddyddiau neilltuol yn hybiau cymunedol Cil-y-coed, Gilwern a Brynbuga yn ogystal ag yng Nghas-gwent a Threfynwy. Wedi’i gyflwyno’n wreiddiol yng Nghas-gwent a Threfynwy ganol Mehefin, mae Gofyn a Chasglu yn galluogi cwsmeriaid i bori drwy gatalog ar-lein y gwasanaeth llyfrgelloedd. Gallant wedyn archebu drwy’r ffurflen ar y wefan- https://www.monmouthshire.gov.uk/request-and-collect-library-service/ – neu drwy ffonio 01633 644644 i ddewis eu llyfrau a threfnu amser i’w casglu.

Yn ogystal â chyflwyno Gofyn a Chasglu yn y tri safle ychwanegol, mae’r cyngor hefyd yn ymestyn ei wasanaeth am ddiwrnod ychwanegol bob wythnos yng Nghas-gwent a Threfynwy.

Mae’r gwaith ar adnewyddu Neuadd y Dref yn Stryd Groes yn golygu na fydd y gwasanaeth ar gael yn y Fenni er bod y cyngor yn edrych ymlaen at agor ei gyfleuster newydd yn y dyfodol. Yn y cyfamser, gall trigolion y dref ymweld a defnyddio unrhyw un o hybiau cymunedol y cyngor i ddychwelyd a chasglu llyfrau newydd.

Wrth siarad am ddatblygiad y gwasanaeth dywedodd y Cynghorydd Paul Jordan, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am hybiau cymunedol: “Ar ôl cyflwyno ein gwasanaeth Gofyn a Chasglu yn llwyddiannus, rydym yn awr yn dymuno ehangu ein gwasanaeth fel y bydd ar gael i fwy o bobl ar draws y sir.”

Mae manylion y dyddiau a’r amserau pan fydd y gwasanaeth ar gael ym mhob hyb cymunedol ar gael ar y wefan: https://www.monmouthshire.gov.uk/request-and-collect-library-service/ – aiff y ffurflen archebu yn fyw ar gyfer y tri safle ychwanegol ganol-dydd ddydd Mawrth 21 Gorffennaf a bydd y ffurflen newydd yn rhestru dyddiau ychwanegol ar gyfer Cas-gwent a Threfynwy ar gael ganol-dydd ddydd Mercher 22 Gorffennaf.