Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy heddiw wedi croesawu cynlluniau gan y Gweinidog Addysg i ganiatáu i ysgolion, a all wneud hynny’n ddiogel, i ail-agor o wythnos gyntaf mis Medi, gyda phob ysgol yn ail-agor o Fedi 14eg.

Mae cynlluniau a pharatoadau lleol ar y gweill rhwng Cyngor Sir Fynwy ac ysgolion yn yr ardal i adolygu asesiadau risg, prosesau a systemau.  Bydd hyn yn sicrhau bod ysgolion unigol yn gallu croesawu disgyblion yn ôl yn ddiogel, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Bydd ysgolion sy’n gallu gwneud hynny yn ail-agor o wythnos gyntaf y tymor. Efallai y bydd angen rhoi blaenoriaeth i rai grwpiau penodol o ddysgwyr yn ystod yr wythnos hon, fel blwyddyn 7, 12, 13 ac unedau arbennig ar gyfer ysgolion uwchradd, unedau arbennig ar gyfer y blynyddoedd cynnar, a blwyddyn 6. Bydd rhieni yn derbyn gwybodaeth fwy penodol gan eu hysgol a Chyngor Sir Fynwy wrth i hynny ddod ar gael. 

O Fedi 14eg, bydd presenoldeb yn yr ysgol yn orfodol. Gofynnir i rieni gysylltu â’u hysgol os na all disgybl fynychu i drafod eu sefyllfa ymhellach.

Bydd gan bob ysgol heriau lleol i fynd i’r afael â hwy, gan gynnwys lefelau staffio. Mae gwaith ar y gweill gyda chydweithwyr i gadarnhau trefniadau cludiant i’r ysgol.  Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n agos gyda phob ysgol i oresgyn materion o’r fath.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi gwerth £29 miliwn i roi hwb i gymorth i ddysgwyr er mwyn lleihau effeithiau’r amhariad oherwydd yr argyfwng parhaus. Bydd yr hyn sy’n cyfateb i 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu yn cael eu recriwtio ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf, gan dargedu cymorth ychwanegol ym mlynyddoedd 11, 12 a 13, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oed.  Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gydag ysgolion i egluro’r manylion.

Dywedodd Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Richard John: “Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod emosiynol heriol i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd gan fod rhieni wedi ceisio cydbwyso gwaith a gofal plant. Yr wyf yn croesawu’n gynnes gynllun y Gweinidog i ganiatáu i ysgolion groesawu pob disgybl yn ôl yn ddiogel yn llawn amser ym mis Medi, yn unol â’r holl fesurau diogelwch angenrheidiol a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn cydnabod bod staff gweithgar yn ein hysgolion, dysgwyr a’u teuluoedd wedi cael eu rhoi o dan bwysau emosiynol, ariannol a seicolegol sylweddol yn ystod yr amser hynod heriol hwn. Mae Sir Fynwy yn parhau i weithio’n agos gyda’n hysgolion a’n lleoliadau gofal plant i ystyried y ffordd orau o gefnogi anghenion lles parhaus pob plentyn a pherson ifanc.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n holl athrawon a staff yr ysgol am y gwaith y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf i gadw mewn cysylltiad â’u disgyblion, rhedeg ein canolfannau llwyddiannus a chynnig cyfleoedd dysgu o bell.

“Rydym yn ymwybodol iawn bod yr argyfwng wedi amharu’n ddifrifol ar ddysgu disgyblion.  Rwy’n croesawu’r addewid o £29 miliwn gan Lywodraeth Cymru i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi’r cam adfer, gan leihau’r effaith ar ddisgyblion a pharhau â’r gwaith sy’n mynd rhagddo i godi safonau ysgolion.”