Skip to Main Content


Dyma ymgyrch ledled Cymru sy’n annog pobl i gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol os ydynt yn poeni bod aelod o’r teulu, cyfaill, cymydog neu rywun y maent yn ei adnabod yn eu cymuned mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso a’u niweidio.

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru wedi gweld gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau i’w wasanaethau ers y cyfnod cloi. Nid yw cam-drin, esgeulustod na niwed wedi dod i ben ond mae’r cyfleoedd i adnabod yr arwyddion wedi lleihau gan fod mynediad i leoliadau gofal plant, ysgolion, sefyllfaoedd cymdeithasol a rhyngweithio rhwng pobl wedi bod yn gyfyngedig. 

Mae nawr yn bwysicach nag erioed ein bod yn gofalu am ein gilydd a chynghorir pobl i gysylltu â thîm diogelu gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Fynwy ar 01873 735492 os ydych yn poeni am oedolyn sy’n wynebu risg; 01291 635669 os ydych yn pryderu am blentyn; neu ffoniwch 101 os ydynt yn poeni y gallai rhywun fod mewn perygl.

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol: “Mae gwasanaethau cymdeithasol yn agored ac yn barod i helpu os yw pobl yn pryderu bod aelod o’r teulu, cyfaill neu gymydog angen cymorth. Er ein bod wedi ceisio cadw cysylltiad â phobl sydd eisoes yn hysbys i ni cyn y cyfnod cloi, mae perygl y bydd cam-drin, esgeulustod neu niwed yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig a bod y pandemig yn gwaethygu hyn.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n poeni i gysylltu â gwasanaethau cymdeithasol. Gall fod yn benderfyniad anodd ond yn un a allai helpu i achub rhywun rhag dioddef cam-drin, esgeulustod neu niwed. Gallwch hefyd ffonio 101 neu, mewn argyfwng ffoniwch 999.  Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n rhaid i ni i gyd ofalu am ein gilydd – gyda’n gilydd gallwn gadw plant, pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel.”

Ewch i wefan Cadw Pobl yn Ddiogel https://llyw.cymru/iach-a-diogel/cadw-pobl-yn-ddiogel am ragor o wybodaeth am wasanaethau cymdeithasol lleol a sut i fynegi eich pryderon. Os yw eich galwad yn fwy brys ffoniwch 101, neu mewn argyfwng ffoniwch 999.