Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda busnesau ar draws y Sir i gefnogi ymgyrch #SiopaSirFynwy #SiopaLleol

Er mwyn i ganol trefi Sir Fynwy ffynnu ac i fasnachwyr oroesi, mae angen i bawb eu cefnogi. Mae llawer o drigolion wedi bod yn cerdded ac yn beicio mwy dros y misoedd diwethaf a’r gobaith yw y bydd hynny’n parhau. Yn yr un modd, cydnabyddir ei bod yn debygol y bydd dychwelyd at ddefnydd trafnidiaeth gyhoeddus yn cymryd peth amser er mwyn dychwelyd i’r lefelau cyn-Covid. Mae parcio am ddim am awr yn y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy a darpariaeth barcio Bathodyn Glas ychwanegol yn cael eu darparu er mwyn annog pobl i ddychwelyd.

Bydd parcio am ddim a darpariaeth parcio ychwanegol Bathodyn Glas yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn yn ystod yr wythnosau nesaf:

Y Fenni: Mae 48 man ‘un awr am ddim’ ychwanegol ac 17 o fannau Bathodyn Glas (maes parcio Lle Tiverton) yn gwrthbwyso’r mynediad cyfyngedig i naw lle ’30 munud am ddim’ ac wyth cilfan barcio i’r anabl ar Stryd y Groes a cholli’r chwe man ’30 munud am ddim’ ar Stryd Frogmore.  Os cânt eu cyrchu cyn i’r ffordd gau am 10am, mae’r cilfannau parcio anabl ar Stryd y Groes dal ar gael i’w defnyddio, a gall deiliad Bathodyn Glas adael drwy Stryd y Farchnad.

Cas-gwent: Mae 63 man arhosiad hir am ddim yng Nghanolfan Hamdden Cas-gwent tra bod y ganolfan yn parhau i fod ar gau ar gyfer busnes. Mae 15 man ‘un awr am ddim’ ychwanegol yn ogystal â newid y 15 man ’30 munud am ddim’ ar Stryd y Cymry i ‘un awr am ddim’. Hefyd, bydd 10 cilfan barcio ychwanegol ar gyfer pobl anabl.  Caiff y pump lle sydd o fewn y ffordd ar gau ar Stryd y Banc eu hail-agor cyn gynted ag y bydd y gorchymyn cyfreithiol diwygiedig mewn lle ac y caiff mynediad ei wneud yn ddiogel i fodurwyr a cherddwyr.

Trefynwy: Mae 35 man ychwanegol ‘un awr am ddim’ a 12 man parcio ychwanegol i’r anabl ym Maes Parcio Tŷ Cernyw, gan wrthbwyso’r golled o 35 man ’30 munud am ddim’ ar Stryd Mynwy. Mae’r mannau parcio i’r anabl ar Stryd Mynwy a Stryd Blestium dal i fod ar gael i’w defnyddio, gan gynnwys y pedair cilfan yn union o fewn ardal ar gau Stryd Mynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, “Ein gobaith yw y bydd y cynllun parcio ‘un awr am ddim’ yn croesawu mwy o breswylwyr ac ymwelwyr yn ôl i mewn i’n trefi, gan annog pawb i Siopa Lleol, Siopa Sir Fynwy. Rydym hefyd yn bwriadu cynnig rhywfaint o ddarpariaeth parcio bathodyn glas ychwanegol.  Ein nod erioed yw gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu busnesau i ddod yn ôl ar eu traed ar ôl effaith ddinistriol COVID-19.  Rydym yn gobeithio y caiff yr incwm a gollir o’n meysydd parcio ei wrthbwyso gan y ffaith bod mwy o bobl yn gallu teimlo’n hyderus i ddychwelyd i’n strydoedd mawr, a gwario eu harian haeddiannol drwy siopa’n lleol. Bydd y cynllun hwn ar waith tan o leiaf 30ain Medi 2020.”

“Rydym wedi gwneud addasiadau ffisegol mewn llawer o’n trefi i’w gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gerddwyr symud o gwmpas. Rydym yn cydnabod bod hyn yn cyflwyno rhai heriau i fodurwyr ac rydym wedi lliniaru’r heriau hyn lle y bo’n bosibl.  Mae rhai wedi gofyn i ni ddarparu parcio am ddim tan ddiwedd y flwyddyn . Pe gallem, mae’n debyg byddwn yn gwneud hynny, ond byddai dull o’r fath yn costio dros £500,000 i’r Cyngor. Mae ein cyllid mewn sefyllfa ansicr eisoes o ystyried y galwadau sy’n ymwneud â llifogydd a gwaith pandemig yn hanner cyntaf y flwyddyn, felly ni allwn ymestyn mor bell â hynny.”

Wrth siarad am newidiadau yng nghynlluniau rhai o ganol trefi dywedodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Jane Pratt, “Rydym wedi gwrando ar adborth preswylwyr ar y cynlluniau hyn, sy’n rhan o dreial parhaus. Nid ydym erioed wedi gorfod cyflwyno mesurau o’r fath o’r blaen, felly mae wedi bod yn broses ddysgu i bawb.  Ein pryder yw diogelwch ein trigolion, a rhaid i hynny fod bob amser.  Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i alluogi siopwyr a busnesau i ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol, sy’n cynnwys cadw cerddwyr allan o niwed i draffig. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein strydoedd mawr yn hygyrch i bawb, ac mae hynny’n golygu mynd i’r afael ag anghenion y rheini sy’n defnyddio mannau parcio’r Bathodyn Glas.  Credaf y bydd y cynlluniau sy’n cael eu cyflwyno nawr yn mynd i’r afael â hyn ac os oes gan drigolion bryderon ynghylch lle i barcio a materion hygyrchedd, mae ein canolfan gyswllt ar gael i helpu ar 01633 644644.”