Skip to Main Content

Bu Cyngor Sir Fynwy yn gweithio i gefnogi busnesau a helpu preswylwyr i deimlo’n hyderus am ddychwelyd i ganol eu trefi a phentrefi, wrth i siopau nad ydynt yn hanfodol baratoi i ail-agor.

Fel rhan o’r broses cynhaliodd y cyngor arolwg yn ddiweddar i gael darlun cliriach o sut mae preswylwyr yn teimlo, beth oedd eu pryderon ac i ofyn am syniadau ac adborth am sut olwg allai fod ar drefi a phentrefi’r sir yn y dyfodol.

Yn dilyn y canfyddiadau hyn a thrafodaethau gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned a Fforwm Busnes Sir Fynwy, mae’r Cyngor yn lansio ‘Siopa yn Lleol, Siopa yn Sir Fynwy’ heddiw. Mae’r ymgyrch hon yn dathlu natur unigryw pentrefi a threfi’r sir, yn annog preswylwyr i gefnogi busnesau annibynnol drwy siopa yn lleol ac yn rhoi arweiniad clir i fusnesau am yr hyn sydd angen iddynt ei wneud er mwyn ailagor.

Dywedodd y Cyng Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Fenter a Chynllunio Defnydd Tir: “Mae busnesau annibynnol wedi wynebu heriau mawr ers cyhoeddi’r cyfyngiadau symud felly rydym eisiau rhoi cymaint o gefnogaeth iddynt ag sydd modd wrth iddynt weithio tuag at ail-agor. Bydd adran arbennig ar ein gwefan i drafod eu hanghenion. Ar dudalennau ‘Siopa yn Lleol, Siopa yn Sir Fynwy’ gallant gael mynediad i wybodaeth ac adnoddau hanfodol tebyg i bosteri ac arwyddion y gellir eu lawrlwytho. Bydd hefyd yn cynnwys yr wybodaeth maent ei hangen i sicrhau fod eu cwsmeriaid a’u staff mor ddiogel ag sydd modd, megis sut i gynnal asesiad risg. Caiff yr wybodaeth ei diweddaru’n rheolaidd wrth i ddeddfwriaeth newid i sicrhau ei fod yn fanteisiol yn yr hirdymor hefyd.”

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn gweithio gyda’r cynghorau tref a chymuned i roi mesurau ar waith yn gynyddol o’r wythnos nesaf fydd yn helpu gwneud i breswylwyr deimlo’n fwy hyderus, megis arwyddion ymbellhau cymdeithasol, terfyn cyflymder 20 milltir yr awr mewn ardaloedd canolog allweddol i alluogi cerddwyr a seiclwyr i deimlo’n fwy diogel, mesurau iechyd a diogelwch, a sicrhau fod busnesau’n gwybod yr hyn sydd angen iddynt ei wneud i fod yn ‘ddiogel rhag COVID’.

Caiff y mesurau a gyflwynir yn neilltuol i bob tref. Bydd nifer o newidiadau amlwg yn y Fenni, Cas-gwent, Magwyr a Threfynwy, megis arwyddion ymbellhau cymdeithasol wedi’u stensilio ar balmentydd, rhwystrau, terfyn cyflymder is a chynlluniau prawf i gau ffyrdd neu systemau un ffordd. Yng Nghil-y-coed bydd cyfyngiadau estynedig o fewn yr ardal bresennol i gerddwyr. Cafodd y rhain eu penderfynu ar y cyd gan bob cyngor tref a chyngor cymuned, dref wrth dref gyda Chyngor Sir Fynwy. Cynhaliwyd ymgynghoriadau hefyd gyda fforymau busnes.

Ym Mrynbuga, bydd y cyngor yn mabwysiadu argymhellion y cyngor y dref ar fesurau. Mae’r rhain yn cynnwys rheoli goleuadau traffig ar Stryd y Bont i greu un lôn cerbyd a galluogi ardaloedd lletach i gerddwyr. Bydd newidiadau bach yng Nghilwern a Rhaglan fel canlyniad i ymgynghoriad gyda’r cyngor cymunedol.

Caiff yr holl fesurau a roddir ar waith eu gwerthuso fel maent yn digwydd a’u haddasu yn dibynnu ar y derbyniad a gânt gan y gymuned a pha mor effeithlon ydynt.

Dywedodd y Cyng Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Wrth i baratoadau gael eu gwneud i ailagor trefi a phentrefi Sir Fynwy, rydym eisiau sicrhau y caiff hyn ei wneud mewn modd mor ddiogel ag sydd modd.

“Rydym wedi gwrando ar yr adborth gan breswylwyr a gymerodd ran yn yr arolwg ac er bod y mesurau dechreuol hyn yn rhai tymor byr, gwyddom y gallent ffurfio sail newidiadau a gwelliannau hirdymor i’n trefi. Mae’n galondid fod mwyafrif y preswylwyr a ymatebodd wedi datgan penderfyniad clir i siopa yn lleol, felly rydym eisiau gwneud popeth a fedrwn i wneud hynny mor ddifyr ac mor ddiogel ag sydd modd. Mae’r arolwg wedi datgelu llawer o syniadau gwych ac adborth defnyddiol, yn cynnwys mwy o gyfleoedd siopa ar-lein gyda busnesau lleol, mwy o gynlluniau Teithio Llesol, mwy o gaffes awyr agored a digwyddiadau gydag ymbellhau cymdeithasol.”

“Felly nid dyma ddiwedd y broses, byddwn yn dysgu’n gyflym ac yn addasu cynlluniau wrth i ni symud ymlaen, a byddwn yn gwella ar sail adborth. Byddem yn dal wrth ein bodd yn clywed syniadau gan breswylwyr. Gellir cyflwyno’r rhain trwy ein cyfrif Facebook neu drwy sgyrsfot Monty ar wefan y cyngor a chânt eu rhannu gyda’r cynghorau tref a chymunedol priodol. Rydym yn agored i sgyrsiau gyda chymunedau trefi a phentrefi eraill a allai deimlo y gallent elwa o rai o’r mesurau a gyflwynwyd.”

I gael mwy o wybodaeth ewch i www.monmouthshire.gov.uk a chlicio ar ddolen Siopa yn Lleol, Siopa yn Sir Fynwy.