Skip to Main Content

Bu gofalwyr sy’n gofalu am anwyliaid neu gyfeillion yn rhannu eu profiadau personol gyda Chyngor Sir Fynwy ar ddechrau Wythnos Gofalwyr 2020. Nod yr ymgyrch flynyddol, sy’n rhedeg rhwng 8 – 14 Mehefin, yw codi ymwybyddiaeth o ofalu, rhoi sylw i’r heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl a chydnabod eu cyfraniad i deuluoedd a chymunedau ar draws y sir.

Mae thema eleni – ‘gwneud gofalu yn weladwy’ – yn gobeithio tynnu sylw at y miloedd o arwyr tawel ar draws y wlad nad ydynt yn aml yn cael eu cydnabod am eu gwaith. Mae’r ymgyrch hefyd yn anelu i helpu pobl nad ydynt yn meddwl am eu hunain fel bod â chyfrifoldebau gofalu i uniaethu fel gofalwyr a chael mynediad i gymorth sydd ei fawr angen.

I helpu codi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl bu Angela Harris, sy’n gofalu am ei thad 92 oed, yn rhannu ei phrofiad o ofalu yn ystod y pandemig a’r heriau a ddaeth yn sgil hynny. Dywedodd: “Mae’r pandemig wedi effeithio ar bawb ohonom. Mae fy nhad yn ei chael yn anodd peidio mynd allan ond rydym wedi esbonio iddo fod yn rhaid iddo aros i mewn, mae’n rhaid i ni fod yn ddiogel. Ar hyn o bryd rydym yn cymryd pethau un dydd ar y tro.”

Mae’r Wythnos Gofalwyr yn aml yn uchafbwynt y flwyddyn ar gyfer Prosiect Gofalwyr Sir Fynwy, gyda’r tîm yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau. Gwelodd 2020 y tîm yn meddwl tu allan i’r blwch oherwydd y pandemig presennol ac mae’r tîm wedi llunio digwyddiadau a hyfforddiant rhithiol ar gyfer gofalwyr yn cynnwys boreau coffi rhithiol i helpu gadw pobl mewn cysylltiad.

Mae Prosiect Gofalwyr Sir Fynwy hefyd yn defnyddio’r wythnos i roi sylw i’r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr. Maent yn galw ar unrhyw ofalwr a allai fod angen help neu gyngor i gysylltu â nhw. Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys mynediad i weithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol a’r tîm ail-alluogi.

Dywedodd y Cyng Penny Jones, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Diogelu: “Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod gwaith cynifer o ofalwyr gwych ar draws Sir Fynwy. Pa bynnag fath o ofalu a wnewch, p’un ai’n gofalu am aelod o’r teulu neu edrych ar ôl ffrind, rydych yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau. Mae’r wythnos hon i gyd amdanoch chi a chanmol eich gwaith gwych. Diolch i chi!”

Gofynnir i unrhyw ofalwr sy’n dymuno cymryd rhan a rhoi cynnig ar rai o’r cyfleoedd hyn yn defnyddio technoleg ddigidol i gofrestru gyda’r tîm.

E-bost Tracey Davies – Cydlynydd Gofalwyr – tracey.davies@gavo.org.uk neu ffonio 01291 675474