Skip to Main Content

“Os ydych eisiau teithio yn gyflym, teithiwch ar ben eich hun. Os ydych eisiau teithio ymhell, teithiwch gyda’ch gilydd”

Mae hyn yn crisialu cyfyng-gyngor diddorol i ni wrth edrych i’r dyfodol. Bu ein hymateb dechreuol i Covid yn gyflym iawn ac effeithlon iawn. Rydym wedi dod yn gyfrifol am ein hynt ein hunain, manteisio ar ein talentau a’n galluoedd ein hunain gan ganolbwyntio yn ‘hunanol’ ar ein lle ac ar ein pobl. Rydym wedi bod â ffocws ac yn ddygn am 12 wythnos ac wedi bwrw rhagddi gyda’n Cynllun ar Dudalen. Rydym wedi cau lawr/cau allan lawer o gyfarfodydd sydd, yn rhannol, wedi bod yn nodwedd o’n sefydliad a’u disodli gyda thystiolaeth, dadansoddiad ac angen i weithredu.

Ein diben fu gwneud beth bynnag sydd angen i ddiogelu bywyd. Ni adroddwyd unrhyw farwolaethau oherwydd Covid yn ein sir am 8 diwrnod a dim ond 1 achos newydd a adroddwyd yn y 4 diwrnod olaf. Mae cynnydd yn cael ei wneud.

Yr wythnos hon rydym wedi agor y swyddfa bost mae’r cyngor yn ei rhedeg ym Mrynbuga, wedi ymrwymo i ddod yn gyfrifol yn lle Llywodraeth Cymru am y cynllun parseli bwyd ar gyfer pobl ar y rhestr warchod, rydym yn debygol o alluogi pobl i ymuno â’n cynllun gwastraff mawr a byddwn yn sefydlu dull clic/casglu ar gyfer dosbarthu llyfrau llyfrgell.

Mae ein holl ysgolion yn rhoi trefniadau ar waith fydd yn galluogi plant i ddychwelyd i’w hysgolion mewn ychydig o wythnosau ac yn gwneud cynlluniau i ail-agor ein holl ganol trefi yn ddiogel cyn gynted ag y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi caniatâd. Rydym yn gwneud ein pethau ‘teithio ar ben ein hun’ mor dda.

Rydym yn awr yn symud i’r cam nesaf. Mae angen i’r cyfan uchod barhau wrth i ni adeiladu darlun gwell o’r tri mis nesaf. Bydd ymbellhau cymdeithasol yn aros gyda ni, mae’n annhebyg y caiff cyfyngiadau ar bellter teithio eu llacio, ni fydd brechlyn ac fe fydd yn rhaid i ni osgoi’r rhif R hwnnw rhag symud yn ôl tuag at 1. Ond mae’n rhaid i ni fyw ac mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer amgylchedd newydd.

Bydd llawer o bobl Sir Fynwy yn colli eu swyddi a gyda hynny eu hincwm a’u sefydlogrwydd. Bydd llawer mwy yn ofnus a phryderus am ddychwelyd i ofodau cyhoeddus. Mae’n debyg y bydd llawer wedi colli ffitrwydd, wedi colli triniaethau meddygol oedd wedi’u trefnu, yn hawlio budd-daliadau am y tro cyntaf yn eu bywydau, ac yn poeni sut y byddant yn talu eu morgais/rhent tra’n bwydo eu teuluoedd. Ar yr un pryd bydd eraill sydd mewn gwirionedd wedi arbed arian, gostwng eu gwariant ac wedi manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan gyfnod tawelach. Bu miloedd yn gwirfoddoli ac yn gymdogol ac mae pobl wedi gwneud cyfeillion newydd. Mae gwe gymdeithasol a rhyng-gysylltiad ein pobl wedi dod hyd yn oed yn fwy cymhleth a tuag at y gofod hwn y cawn ein tynnu nawr. Heriau newydd i ni, gofynion newydd gennym a bydd llawer angen i ni ‘deithio gydag eraill’ i sichrau’r argraff mae angen i ni ei chael.

Mae gennym hanes cyfoethog o fod yn bartner gwych a bydd angen i’r sgiliau hyn ddychwelyd nawr oherwydd bod yn rhaid i ni wneud synnwyr o ddarlun cymdeithasol heriol a bodloni ein hunain fod y trefniadau cefnogaeth gywir ar gael gennym ar gyfer y rhai sydd eu hangen. Rwy’n gweld trydydd partïon yn dechrau ail-sefydlu dulliau llywodraethu gor-gymhleth – bydd angen i’n llais gael ei glywed ond does gennym ni ddim amser i fyw yn y lleoedd yma.

Felly ar lefel Tîm Arweinyddiaeth Strategol a Chabinet rydyn ni’n dechrau meddwl am yr holl bethau yma a byddwn yn llunio cynllun newydd dros yr ychydig wythnosau nesaf. Bydd yn rhaid iddo fod yn hyblyg ond rwy’n credu y bydd ganddo fwy o ffocws ar gefnogi pobl a gafodd yr amser caletaf yn hytrach na diogelu bywyd. Bydd ynglŷn â helpu pobl i deimlo’n ddiogel yn eu cymunedau lleol a bydd yn rhoi glo ar dân gweithredu cymdeithasol a gwirfoddoli. I gyflawni bydd yn rhaid i ni gadw ein hyblygrwydd ac ymddiried yn ein gilydd.

I ddod i ben mae gen i ddarlun o un o’n gwirfoddolwyr newydd. Dyma Leo. Bu Leo yn helpu Ian Blomeley, un o’n cydweithwyr sy’n gweithio yn yr adran Cefn Gwlad / Seilwaith Gwyrdd i wirio cyflwr y rhwydwaith llwybrau troed. Mae’r coesau bach yna wedi crwydro ymhell ond rwy’n meddwl iddo ei fwynhau. Diolch Ian a’r tîm – mae ein rhwydwaith llwybrau troed yn ased anhygoel ond fel popeth arall mae angen sylw a gofal. Gadewch i ni obeithio y caiff pawb ohonom gyfle i ddefnyddio mwy arnynt yn y misoedd i ddod. Byddai’n drueni pe byddai ymdrechion Leo yn mynd yn ofer.