Skip to Main Content

Mewn ymateb i strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru, mae partneriaid yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r pump Awdurdod Lleol yng Ngwent wedi ymuno i sefydlu Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gwent a aiff yn fyw ddydd Llun 1 Mehefin.

Bydd y tîm olrhain cysylltiadau yn cysylltu gyda phobl sy’n cael prawf positif a gofynnir iddynt rannu manylion pobl y buont mewn cysylltiad agos gyda nhw, er enghraifft adref neu yn y gwaith.

Bydd staff y gwasanaeth olrhain cysylltiadau wedyn yn galw’r holl ‘gysylltiadau’ hyn ac yn rhoi cyngor ar yr hyn y dylent ei wneud. Yn dibynnu ar y sefyllfa, gallai hyn gynnwys:

·     Ynysu yn eu cartrefi am 14 diwrnod

·     Cael prawf am Covid-19

·     Galwadau ffôn dyddiol dilynol i bobl er mwyn gwirio am symptomau

·     Rhoi cyngor ac arweiniad penodol i bobl fregus

·    Cyngor ar lanweithdra yn y cartref ac yn y gymuned, ac ymbellhau cymdeithasol

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, Aelod Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Diogelu: “Mae olrhain cysylltiadau yn ffordd ddibynadwy a sicr o gyfyngu lledaeniad coronafeirws yn y gymuned.

Bydd y strategaeth profi, olrhain a diogelu yn cefnogi’r pobl a gafodd brawf positif ar gyfer Covid-19 ac olrhain y bobl y gallent fod wedi trosglwyddo’r feirws iddynt drwy gyswllt diweddar.

Os yw pawb ohonom yn chwarae ein rhan, cadw ymbellhau cymdeithasol ac ynysu pan ofynnir i ni wneud hynny, byddwn yn gostwng trosglwyddiad a lledaeniad y feirws. Bydd hyn yn ffactor bwysig wrth lacio cyfyngiadau ar symud a galluogi adferiad cymdeithasol ac economaidd yng Ngwent.”

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rwy’n falch i weld y rhaglen olrhain yn cael ei lansio yng Ngwent. Bydd y dull gweithredu hwn yn ein galluogi i ddynodi achosion a sicrhau fod y bobl sy’n cael prawf positif yn ynysu yn eu cartrefi a bod eu cysylltiadau yn cael y cyngor maent ei angen. Bydd hyn yn gostwng lledaeniad coronafeirws ar draws Gwent. Rwy’n falch iawn o’r gwaith a wnaethom hyd yma, er yn sylweddoli bod angen gwneud llawer mwy i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phobl Gwent.”

Y symptomau mwyaf cyffredin o coronafeirws yw dyfodiad diweddar un neu fwy o’r dilynol:

–        Peswch newydd parhaus

–        Tymheredd uchel

–        Colli neu newid synnwyr arogl neu flasu

Dylech aros adref am saith diwrnod os oes gennych symptomau. Dylech hunanynysu am 14 diwrnod os ydych yn byw gyda rhywun sydd â symptomau ond eich bod chi eich hun yn teimlo’n iawn.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: