Skip to Main Content


Mae ymgyrchwyr gwrth-sbwriel a staff ailgylchu a gwastraff Sir Fynwy wedi apelio ar breswylwyr am help i atal y swm cynyddol o sbwriel a adewir ar lannau’r Afon Gwy yn Nhrefynwy. Mae grwpiau o bobl yn ymgynnull ar lan yr afon yn gyson wedi gadael nifer enfawr o ganiau yn ogystal â photeli plastig a gwydr.

Mae casglwyr sbwriel gwirfoddol wedi clirio’r safle ond yn cael trafferth ymdopi gyda faint o sbwriel a adewir. Yn y cyfamser mae staff y cyngor wedi cyfeirio’r broblem at Heddlu Gwent gan y canfuwyd capsiwlau ocsid nitraidd ac maent yn amau bod y rhai sy’n ymgasglu ar lan yr afon yn methu cydymffurfio ag ymbellhau cymdeithasol. Maent hefyd wedi cynnig help pellach i’r gwirfoddolwyr.

Dywedodd Emma Bryn, ymgyrchydd gwrth-sbwriel lleol: “Rydym mor ffodus i fyw mewn rhan mor fendigedig o’r wlad a rhannu hynny gyda bywyd gwyllt rhyfeddol. Mae gadael sbwriel yma mor ddifeddwl ar gynifer o lefelau. Mae’n fraint fawr i ni fyw a mwynhau’r ardal anhygoel yma a felly gofynnwn i unrhyw un sy’n mynd â photeli a chaniau i unrhyw leoliad, yn cynnwys y man hyfryd hwn ar lan yr afon, i fynd â’u poteli a chaniau gwag gartre gyda nhw a’u hailgylchu.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ailgylchu a gwastraff: “Er yr ymateb anhygoel i broblem plastig yn y môr a godwyd yng nghyfres The Blue Planet ar y BBC, clywn fod gwirfoddolwyr lleol yn cael trafferth ymdopi gyda faint o sbwriel a adewir ar lannau ein hafonydd. Mae sbwriel o’r fath yn neilltuol o ddinistriol i’r amgylchedd gan fod yn rhwydd iddo gyrraedd yr afon ac wedyn y môr lle bydd yn achosi difrod sylweddol. Gofynnir i chi gofio mai’ch amgylchedd chi yw hwn, parchwch ef a’i gadw’n hardd os gwelwch yn dda drwy fynd â sbwriel gartref gyda chi.”

I gael mwy o wybodaeth mewngofnodwch i https://www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/dogfouling/