Skip to Main Content

Bydd Stryd Mynwy a Stryd Sant Ioan yn Nhrefynwy ar gau i gerbydau o ddydd Iau 25 Mehefin 2020. Mae’r cyngor wedi cyhoeddi gorchymyn argyfwng i sicrhau fod pobl sy’n ymweld â’r stryd fawr a chanol y dref yn ddiogel wrth siopa ac yn ymbellhau’n gymdeithasol. Mae’r mesurau’n golygu y caiff cerbydau eu gwahardd rhag teithio drwy’r strydoedd, gydag eithriad ar gyfer cerbydau dosbarthu nwyddau i wasanaethu’r dref.

Mae’r mesurau dros dro yn rhan o nifer o newidiadau i drefi a phentrefi Sir Fynwy, gyda’r nod o gefnogi siopau a busnesau lleol i ddechrau masnachu’n ddiogel yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru am ailagor busnesau heb fod yn hanfodol.

Mae’r mesurau’n cynnwys: terfynau dros dro ar gyflymder, cau strydoedd a gosod arwyddion mewn ardaloedd lle mae risg bosibl i gerddwyr a all fod yn ymbellhau’n gymdeithasol. Gobeithir y bydd y newidiadau yn annog y cyhoedd i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd teithio llesol sydd ar gael iddynt drwy gerdded, seiclo neu ddal trafnidiaeth gyhoeddus i ymweld â threfi a phentrefi hardd Sir Fynwy. Cafodd y mesurau eu rhoi ar waith ar sail treialu ac mae’r cyngor yn gofyn am adborth adeiladol gan breswylwyr a busnesau ar sut mae’r newidiadau yn gweithio.

Cyflwynir y mesurau ar yr un pryd ag ymgyrch ‘Siopa yn Lleol, Siopa yn Sir Fynwy’ y cyngor sy’n cefnogi busnesau i ailagor gyda’r holl fesurau diogelwch angenrheidiol yn eu lle. Defnyddir baneri, marcwyr pellter cymdeithasol a thybiau planhigion i helpu dychwelyd trefi a phentrefi’r sir i’r hybiau egnïol yr oeddent cyn y cyfnod cloi; fodd bynnag yn y tymor byr bydd angen rhoi rhwystrau, conau ac arwyddion i wahanu traffig (cerddwyr, seiclwyr a cheir).

Dywedodd Jane Pratt, Aelod Cabinet dros y Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Mae’r mesurau dros dro hyn yn rhan o gynllun ehangach Cyngor Sir Fynwy i gefnogi busnesau wrth iddynt ddechrau ailagor ar ôl yr hyn fu’n gyfnod heriol. Deallwn y bydd effeithiau dilynol ar gyfer pobl a all fod wedi arfer gyrru drwy’r stryd fawr ond cafodd y mesurau hyn eu gweithredu gan ystyried diogelwch preswylwyr. Byddem yn annog pawb i feddwl sut maent yn teithio yn ystod y cyfnod hwn. Os gallwch seiclo neu gerdded, yna dyma’r amser perffaith i fwynhau misoedd yr haf tra’n gwneud eich pwt i helpu’r amgylchedd. A pheidiwch anghofio Siopa yn Lleol, Siopa yn Sir Fynwy.”

Mae manylion yr holl newidiadau i drefi a phentrefi Sir Fynwy ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/shop-local/changes-in-your-town/?preview=true