Skip to Main Content

Dylai busnesau yn Sir Fynwy weithredu’n fuan os ydynt yn dymuno gwneud cais am gymorth ariannol.  Mae Cronfa Grantiau Busnes Llywodraeth Cymru yn cau ar 30ain Mehefin. Mae dros 2,000 o fusnesau eisoes wedi cofrestru, ac mae llawer ohonynt eisoes yn derbyn grantiau o £10,000 neu £25,000 sydd wedi cael eu gweinyddu gan Gyngor Sir Fynwy.  Mae’r cyllid hwn ar gael i fusnesau cymwys o fewn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden ac nid oes angen eu had-dalu.  Fodd bynnag, mae cannoedd o fusnesau mewn perygl o golli’r cyfle i gael y cymorth hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rydym wir eisiau i unrhyw berchennog busnes, sy’n credu y gallen nhw fod yn gymwys, i fynd ar wefan Busnes Cymru a chofrestru. Erbyn hyn, credwn fod cynifer â 500 o fusnesau yn mynd i golli’r cyllid hwn. Gall busnesau sydd â mwy nag un adeilad gwblhau cais ar gyfer pob safle.  Mae hwn yn gymorth hanfodol.  Byddwn yn gofyn i bawb gyfleu’r neges hon er mwyn sicrhau y gall cynifer o fusnesau ag sy’n bosibl gael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn annog perchnogion busnesau i gymryd y cam cyntaf a gwirio’u cymhwysedd drwy ymweld â gwefan grantiau busnes COVID-19 Llywodraeth Cymru https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/cymorth/cymorth-ariannol-grantiau a gwneud cais ar-lein.

Am wybodaeth ychwanegol ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/