Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi ei fod ail-agor ceisiadau am drwyddedau gwastraff gardd o ddydd Mercher 10fed Mehefin. Ail-ddechreuodd y casgliadau’r mis diwethaf ac erbyn hyn mae’r ôl-groniad wedi’i glirio felly gall y rhai y mae angen iddynt adnewyddu eu trwydded neu ofyn am un am y tro cyntaf gael gafael ar y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, yr Aelod Cabinet dros Seilwaith, “Rydym yn falch o allu cynnig y gwasanaeth hwn i fwy o drigolion ac rydym yn disgwyl llawer o geisiadau. Felly, gadewch 14 diwrnod i’r drwydded eich cyrraedd. Os oes angen bag gwastraff gardd arnoch, anfonwch e-bost at contact@monmouthshire.gov.uk <mailto:contact@monmouthshire.gov.uk> neu ffoniwch y ganolfan gyswllt ar 01633 644644. Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o drigolion wedi bod yn aros am y newyddion hyn, a hoffem ddiolch iddynt am eu hamynedd tra buom yn gweithio i gael cynifer o wasanaethau ag y bo modd yn weithredol unwaith eto.”

I wneud cais am drwydded gwastraff gardd ewch ar-lein i www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/gwastraff-gardd/