Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gofyn i gynifer o drigolion â phosibl gymryd rhan mewn arolwg newydd sy’n ceisio barn a syniadau ynghylch sut y gall ein canol trefi a phentrefi yn Sir Fynwy edrych yn y dyfodol. Wrth i’r Sir edrych tuag at ail-agor busnesau a chyfleusterau yn raddol, hoffai’r cyngor fanteisio ar y cyfle i ail-werthuso sawl agwedd o’n canol trefi a phentrefi er mwyn rhoi hwb i fusnesau lleol a sicrhau bod aros yn lleol yn fwy gwobrwyol nag erioed o’r blaen. 

“Ar ôl effaith enfawr y cyfnod cloi ar fusnesau ac unigolion, mae’n iawn i fanteisio ar y cyfle i ailfeddwl am ganol ein trefi. Sut y gallwn eu gwneud yn fannau lle y bydd pobl am dreulio mwy o amser?  Credwn y gallwn weithio tuag at lai o draffig, aer glanach, mwy o fannau i gerdded o gwmpas, a mwy o weithgareddau o fewn canol y dref ei hun.  Felly, nid yn unig y byddech chi’n mynd i siopa – ac mae gennym gymaint o siopau ffantastig yn y sir – ond yn ogystal â hynny, efallai y byddech yn treulio eich amser hamdden yno,” meddai’r Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, sydd â chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd.

“Rydym yn siarad gyda’n busnesau a’n cynghorau tref, ond rydym eisiau gwybod beth hoffai trigolion Sir Fynwy ei weld. Rydym am gael eu syniadau a’u hawgrymiadau.  Mae hwn yn gyfle amserol i wneud gwahaniaeth go iawn, i bawb gael lleisio’u barn wrth lunio’r cynlluniau ar gyfer dyfodol trefi ein sir.”

Mae’r arolwg ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg a gellir dod o hyd iddo ar https://bit.ly/2Brrqex a bydd yn cau ar 14/6/2020. Ysgogwyd hyn gan yr angen i gefnogi busnesau yn Sir Fynwy wrth i’r sir ddechrau lleddfu’r cyfnod cloi, ac i’r dyfodol.

“Os gallwn wneud canol ein trefi a’n pentrefi hyd yn oed yn fwy deniadol i drigolion ac ymwelwyr, bydd hyn yn helpu ein busnesau sydd mewn trafferthion. Gyda chynifer wedi cael eu taro’n galed gan effeithiau economaidd y pandemig, bydd siopa’n lleol, pan fydd busnesau a all ail-agor wneud hynny, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddwn yn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y bo modd er mwyn i breswylwyr eu defnyddio. Felly yn ogystal â gofyn i bawb gymryd rhan ac ymateb i’r arolwg, rydym hefyd yn gofyn i breswylwyr i gofio Siopa Lleol, Siopa Sir Fynwy. Bydd yn helpu i adfer ein busnesau canol ein trefi a’n pentrefi ar ôl iddynt wynebu cymaint dros y misoedd diwethaf.”

DIWEDD