Skip to Main Content

Caiff mesurau diogelwch ffordd ym Mrynbuga eu diwygio yn dilyn adborth gan gymuned Brynbuga a chyfarfodydd rhwng Cyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Brynbuga.

Caiff y system goleuadau traffig dros dro, conau a chlwydi eu tynnu heddiw. Yn dilyn cyfarfod gyda Chyngor Tref Brynbuga, cafodd nifer o opsiynau eraill eu trafod a’u hadolygu ond ni chredid eu bod yn addas. Caiff opsiwn diwygiedig y Cyngor Sir o system un-ffordd ei gyflwyno erbyn diwedd yr wythnos yn dechrau 29 Mehefin 2020.

Bydd y system un-ffordd yn gweithredu yn defnyddio Stryd y Bont ar gyfer modurwyr yn mynd i gyfeiriad y dwyrain o Frynbuga tuag at yr A40. Wedyn defnyddir Sgwâr Twyn a Stryd y Farchnad Newydd i anfon modurwyr i gyfeiriad y gorllewin drwy Frynbuga dros Bont Wysg.

Cafodd y system goleuadau traffig ei gosod, fel a nodwyd yn wreiddiol fel yr opsiwn a ffafriwyd gan Gyngor Tref Brynbuga, ei gweithredu ar sail treialu, gyda Chyngor Sir Fynwy yn gofyn am farn preswylwyr a Chyngor y Dref ar sut yr oedd yn gweithio. Bydd yr opsiwn arall o system un-ffordd hefyd ar sail treial.

Yn unol â’r adborth, bydd mesurau eraill yn parhau yn eu lle, yn cynnwys y cynnig i roi terfyn cyflymder 20mya ledled Brynbuga, a gwahardd aros ar unrhyw amser ar Rodfa’r Castell rhwng siop sglodion Usk Traditional Fish and Chips a’r orsaf dân. Mae’r cyngor hefyd yn adolygu arwyddion a gorfodaeth cyfyngiadau HGV drwy’r dref.

Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Arloesedd, Menter a Hamdden:

“Mae COVID19 wedi cyflwyno llawer o heriau y bu’n rhaid i gymunedau ar draws y byd ddod i arfer â nhw yn gyflym. Gyda throsglwyddiad cymunedol o’r feirws dan reolaeth, mae gennym nawr gyfle i roi cyfle i fusnesau, yn arbennig fusnesau manwerthu, i ailddechrau ond dim ond os gall masnachwyr a chwsmeriaid gydymffurfio gyda’r canllawiau ymbellhau cymdeithasol 2 fetr. Oherwydd natur Stryd y Bont, Brynbuga yw’r her fwyaf yn Sir Fynwy a bydd yn rhaid i bawb ohonom dderbyn rhai newidiadau os ydym eisiau cadw siopau yn y dref. Deallwn pam oedd Cyngor Tref Brynbuga yn awyddus i roi cynnig ar system goleuadau traffig i osgoi cyflwyno system un-ffordd ac mae Cyngor Sir Fynwy yn credu mai system un-ffordd yn defnyddio Stryd y Bont mewn un cyfeiriad a Sgwâr Twyn hyd at Stryd y Farchnad Newydd yn y cyfeiriad arall yw’r datrysiad gorau. Mae’n glir nad yw gosod goleuadau traffig wedi gweithio. Ni fedrwn roi cynnig ar wahanol gyfluniadau ar gyfer y goleuadau traffig fydd yn datrys y problemau a gafwyd. Ystyriwyd ond gwrthodwyd system un-ffordd i gerddwyr. Mewn strydoedd rhydd o draffig mae’r rhain yn gweithio orau, ac anaml y maent yn gweithio mewn mannau eraill. Roedd nifer o faterion oedd yn golygu ei fod yn anymarferol ym Mrynbuga.

“Felly byddwn yn tynnu’r mesurau presennol ac yn gweithredu system un-ffordd i’w threialu. Anelwn gyflwyno hyn erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Mae’n bwysig tanlinellu na all siopau, heb newid, fasnachu’n ddiogel a’u bod yn debygol o gau. Byddai’r canlyniad hwnnw yn drychinebus i Frynbuga.”