Skip to Main Content

Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru heddiw, lle y cynghorodd y gallai busnesau manwerthu nad ydynt yn hanfodol ail-agor o ddydd Llun 22ain Mehefin, mae Cyngor Sir Fynwy yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi i fusnesau gofio fflysio’u cyflenwad dŵr trwodd yn llwyr.

Ers i’r cyfyngiadau cloi cael eu rhoi ar waith ar 23ain Mawrth, mae llawer o adeiladau a safleoedd wedi bod ar gau am gyfnod hir. Gyda systemau dŵr poeth ac oer heb fod yn gweithredu am rai wythnosau, mae’r tebygolrwydd y bydd bacteria gall achosi Clefyd y Llengfilwyr – math o niwmonia a allai fod yn angheuol – yn llawer uwch.

Mae dŵr sefyll yn meddwl unrhyw ddŵr sydd wedi’i gadw mewn pibellau neu danciau storio am fwy na 24 awr.  Gall arwain at y dŵr sydd mewn systemau plymio mewnol i fynd yn gynhesach a gall tyfiant microbiolegol (fel bacteria) datblygu yn ogystal â chynnydd mewn metelau plymio yn treiddio i mewn i’r dŵr.

“Mae’n hanfodol bod busnesau yn cymryd hyn o ddifrif,” dywedodd y Cynghorydd Sirol Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd.  “Wrth i baratoadau gael eu gwneud ar gyfer ail-agor yn y pen draw, nid dŵr yw’r peth cyntaf o reidrwydd ym meddwl pawb.  Ond, mae’r risg o wneud eich hun a chwsmeriaid yn agored i facteria, hyd yn oed Clefyd y Llengfilwyr yn risg real iawn.

“Mae angen ystyried yr holl systemau dŵr poeth ac oer, gan gynnwys y rhai mewn siopau, salonau trin gwallt, salonau harddwch, swyddfeydd, gwestai, campfeydd, clybiau chwaraeon, clybiau golff, gwestai, tafarndai, clybiau, bwytai, safleoedd gwersylla, adeiladau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr ac unrhyw le sydd â chyflenwad dŵr sydd wedi’i gloi lawr neu sydd â defnydd cyfyngedig ohono. O dan y gyfraith iechyd a diogelwch, rhaid i gyflogwyr, perchenogion busnes a landlordiaid reoli’r risg o ddod i gysylltiad â bacteria Clefyd y Llengfilwyr. Felly, rwy’n gofyn i bob safle busnes ymgyfarwyddo â chyngor Dŵr Cymru a dilyn y mesurau syml iawn a argymhellir.” dywedodd y Cynghorydd Jones.

I gael arweiniad cam wrth gam i sicrhau bod cyflenwadau dŵr busnes yn ddiogel, dilynwch y camau a argymhellir yma: https://www.dwrcymru.com/cy-GB/Business/Covid19-Impact/How-to-restore-your-drinking-water-system.aspx

Os hoffai busnesau gael cyngor ychwanegol cysylltwch â’r adran Iechyd yr Amgylchedd ar 01873 735420.