Skip to Main Content

Gall cofrestru genedigaethau yn Sir Fynwy ac ar draws Cymru yn awr ail-ddechrau.

Gan fod y swyddfa gofrestru yn awr yn trin ôl-groniad o gofrestriadau, rhoddir blaenoriaeth i apwyntiadau yn seiliedig ar ddyddiad geni’r baban – gyda’r rhai sydd wedi aros hiraf yn cael eu cofrestru gyntaf. Mae’r swyddfa gofrestru wedi dechrau gwneud apwyntiadau ar gyfer yr wythnos yn cychwyn 29 Mehefin.

Caiff rhieni y cafodd eu babanod eu geni cyn 1 Ebrill 2020 eu hannog i gysylltu gyda ni i wneud apwyntiad. Ar gyfer babanod a anwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill, gofynnir i rieni gysylltu â’r swyddfa gofrestru i gael mwy o wybodaeth.

Gwnaed trefniadau newydd ar gyfer pob genedigaeth o fewn ardal Gwent / Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Mae pump awdurdod lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen yn cydweithio fel y gall rhieni fynychu eu swyddfa leol i gwblhau’r cofrestru a phrynu tystysgrif geni eu baban yn yr apwyntiad hwnnw.

Bydd angen i rieni newydd fynychu swyddfa gofrestru yn bersonol ond bydd swyddfeydd yn gostwng hyd y cyfweliad drwy gasglu gwybodaeth ymlaen llaw.

Mae gwefannau’r awdurdodau lleol islaw:-

Manylion Cyswllt Cyfeiriad E-bost Rhif Ffôn
Gwasanaeth Cofrestru Blaenau Gwent registrars@blaenau-gwent.gov.uk 01495 353372
Gwasanaeth Cofrestru Caerffili registrars@caerphilly.gov.uk 01443 864166 neu 864170
Gwasanaeth Cofrestru Casnewydd registrar@newport.gov.uk 01633 235510 neu 235520
Gwasanaeth Cofrestru Sir Fynwy RegisterOffice@monmouthshire.gov.uk 01873 735435
Gwasanaeth Cofrestru Torfaen registrars@torfaen.gov.uk 01495 742132 neu 742133