Skip to Main Content


Mae’r tebygrwydd y caiff gofyniad Llywodraeth Cymru i aros yn lleol ei godi ddydd Llun 6 Gorffennaf ac y caniateir i lety hunanddarpar i ymwelwyr (heb rannu cyfleusterau) ail-agor ar 13 Gorffennaf wedi arwain at i ddiwydiant twristiaeth Sir Fynwy wneud paratoadau i groesawu ymwelwyr yn ôl i’r sir.

Mae twristiaeth yn elfen bwysig yn economi Sir Fynwy ac yn 2019 croesawodd y sir 2.28 miliwn o ymwelwyr a wariodd bron £245m ac a gefnogodd dros 3,100 o swyddi llawn-amser, gan helpu i hybu’r stryd fawr a busnesau cysylltiedig.

Mae’r cyngor yn sylweddoli na fu erioed yn bwysicach i gefnogi busnesau lleol ac wrth i’r stryd fawr ail-agor, mae wedi cymryd camau i annog cefnogaeth ar gyfer siopau annibynnol a chanol trefi. Yn ogystal â gweinyddu gwerth £22.4m o grantiau gan Lywodraeth Cymru i 1,728 o fusnesau yn effeithiol, mae wedi datblygu ymgyrch newydd siopa yn lleol mewn partneriaeth gyda grwpiau masnach a chynghorau tref a chymuned Sir Fynwy. Hefyd, mae rhaglen llysgennad gwirfoddolwyr ar y gweill i roi croeso cynnes a chyfeillgar i ymwelwyr i ganol trefi’r sir. Bydd llysgenhadon yn rhannu eu gwybodaeth leol ac yn cynghori ar gyfyngiadau penodol COVID-19 neu addasiadau sydd ar waith.

Er cyfnod anhygoel o anodd ar gyfer twristiaeth a busnesau lletygarwch yn fyd-eang, mae nifer cynyddol o fentrau Sir Fynwy wedi dangos cadernid wrth chwarae rhan sylweddol yn cefnogi cymunedau yn ystod y cyfyngiadau symud. Ymunodd grŵp Gwesty’r Angel (sy’n cynnwys Gwesty’r Angel yn y Fenni, y Siop Gelf a’r Capel a bwyty The Walnut Tree) â chynllun i helpu codi £100,000 i ddarparu prydau bwyd ansawdd uchel i staff rheng-flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phan oedd y phandemig ar ei anterth, cyflenwyd 120 o brydau bob nos i ysbyty cyfagos Nevill Hall. Fe wnaeth y melysydd Granny Browns o Drefynwy a bwyty Panevino yng Nghas-gwent hefyd gyfrannu melysion a siocledi a dosbarthu bwyd i staff rheng-flaen y GIG.

Yn y cyfamser, arallgyfeiriodd distyllfa Silver Cycle yn Nyffryn Gwy a’r Budweiser Brewing Group ym Magwyr eu gweithgareddau i gynhyrchu hylif diheintio dwylo ar gyfer ysbytai a chartrefi lleol i fynd i’r afael â phrinder cenedlaethol. Ac yn yng ngogledd y sir, cynigodd Road House Narrowboats yng Ngilwern fynedfa ei siop fel man casglu ar gyfer eitemau bwyd a gyfrannwyd gan y gymuned leol. Cafodd y rhain eu cludo bob wythnos i fanc bwyd y Fenni. Yn ychwanegol, mae llawer o fusnesau wedi addasu eu trefniadau i gynnig gwasanaethau dosbarthu a chlicio a chasglu lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Sir Paul Jordan, aelod cabinet sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am dwristiaeth: “Mae pandemig Covid-19 a’r llifogydd difrifol ym mis Chwefror wedi taro busnesau twristiaeth a lletygarwch y sir yn galed iawn felly rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr nôl i Sir Fynwy pan godir cyfyngiadau teithio. Gobeithiwn y byddant yn manteisio i’r eithaf ar ein hatyniadau a gweithgareddau ac yn mwynhau treulio amser yn y gornel hyfryd hon o Gymru. Fodd bynnag, gobeithiwn y byddant yn cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau sydd ar ôl yng nghyswllt y pandemig presennol ac yn ymddwyn mewn modd cyfrifol, gan barchu ein cymunedau”.

Mae’r cyngor yn annog busnesau twristiaeth y sir i sicrhau safon diwydiant ‘We’re Good to Go’ Croeso Cymru i ddangos i ymwelwyr a phreswylwyr eu bod yn cydymffurfio gyda chanllawiau perthnasol y llywodraeth ac iechyd cyhoeddus, eu bod wedi cynnal asesiad risg COVID-19 a bod y prosesau angenrheidiol ganddynt yn eu lle. Dylai ymwelwyr edrych am nod barcud We’re Good to Go wrth gynllunio eu hymweliad. I gael manylion busnesau We’re Good to Go a’r wybodaeth cyn-cyrraedd ddiweddaraf edrychwch ar:

www.VisitMonmouthshire.com