Skip to Main Content


Bydd marchnadoedd Sir Fynwy yn ail-agor i’r cyhoedd a masnachwyr yr wythnos nesaf. Dydd Mawrth 30 Mehefin yw dyddiad ail-agor Bydd marchnadoedd y Fenni a Chil-y-coed a bydd marchnad Trefynwy yn ail-agor ddydd Gwener 3 Gorffennaf.

Mae’r penderfyniad yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn galluogi busnesau heb fod yn hanfodol i ail-agor. Bu Cyngor Sir Fynwy yn gweithio i sicrhau bod marchnadoedd ac ardaloedd awyr agored yn gweithredu yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol a sicrhau profiad siopa diogel ar gyfer masnachwyr a siopwyr.

Mae ail-agor y farchnad yn cyd-daro gyda neges gyfredol #siopaynlleol #siopaynsirfynwy Cyngor Sir Fynwy, sy’n annog preswylwyr i feddwl am gefnogi busnesau lleol wrth i fesurau’r cyfnod cloi ddechrau llacio. Gall siopwyr ddisgwyl weld y detholiad arferol o gynnyrch ffres, crefftau cartref a nwyddau lleol.

I baratoi ar gyfer ail-agor, caiff pob un o’r tair marchnad eu glanhau. Caiff mannau cyffwrdd cymunol eu glanhau drwy gydol y dydd a chaiff y safleoedd eu glanhau bob nos ar ôl i’r marchnadoedd gau. Mae’r cyngor wedi pwysleisio fod yn rhaid cadw ymbellhau cymdeithasol rhwng stondinwyr a chwsmeriaid bob amser.

Caiff cwsmeriaid eu hannog i dalu am eu nwyddau drwy daliad digyswllt. Yn ogystal, bydd yn rhaid i bobl sy’n siopa yn y Fenni giwio i fynd i mewn i neuadd y farchnad a rhoi hylif diheintio ar eu dwylo, fydd ar gael wrth y fynedfa ac o amgylch y safle. Bydd hefyd angen iddynt ddilyn llwybrau cerdded un ffordd a osodwyd gan staff y farchnad.

Mae dyddiau agor y marchnadoedd fel sy’n dilyn:

Y Fenni – dydd Mawrth 30 Mehefin, dydd Gwener 3 Gorffennaf (disgwylir i’r farchnad ddychwelyd i agoriad pedwar diwrnod o 6 Gorffennaf)

Cil-y-coed – dydd Mawrth 30 Mehefin, dydd Sadwrn 4 Gorffennaf

Trefynwy – dydd Gwener 3 Gorffennaf, dydd Sadwrn 4 Gorffennaf

Dywedodd y Cynghorydd Phil Murphy, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “Mae gofodau’r farchnad yn hybiau egnïol yn ein cymunedau ac mae rôl y gofodau hyn yn ymestyn ymhell tu hwnt i le i brynu cynnyrch yn unig. Gwn y bydd llawer o’n preswylwyr yn edrych ymlaen at weld wynebau cyfarwydd masnachwyr gwych Sir Fynwy unwaith eto. Rydym eisiau i siopwyr ddychwelyd yn teimlo’n hyderus mai eu diogelwch yw’r brif flaenoriaeth. Mae’n wych gweld y canolbwyntiau pwysig hyn yn ein trefi yn dychwelyd a rydym yn annog ein holl breswylwyr i feddwl am eu cigyddion, pobwyr a gwneuthurwyr gemau lleol y tro nesaf y byddant yn dod i’r dref.”