Skip to Main Content


Mewn wythnosau diweddar bu llawer o sylw yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol yn dweud straeon rhai ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn y pandemig coronafeirws. O weithwyr iechyd i weithwyr allweddol eraill a gweision cyhoeddus, maent yn cael canmoliaeth haeddiannol iawn am eu gwaith dewr a diflino. Rydym hefyd wedi darllen a gweld adroddiadau wythnos ar ôl wythnos am arwyr eraill yn ein cymunedau a ddangosodd ddyfeisgarwch, anhunanoldeb ac ysbryd cymunedol i helpu mynd i’r afael â’r argyfwng.

Oherwydd yr amgylchiadau eithriadol a achoswyd gan COVID-19, cytunodd Ei Mawrhydi Y Frenhines i ohirio’r Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y bwriedid ei chyhoeddi ar 13 Mehefin tan yr hydref. Cafodd y Rhestr Pen-blwydd wreiddiol ei llunio ymhell cyn argyfwng COVID-19 ac felly nid oedd yn adlewyrchu’r ymdrechion hynod sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd i drin a lliniaru’r argyfwng. Mae gohirio’r rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd yn golygu fod gennym gyfle i gydnabod pobl sydd wedi:

  • Gweithio ar reng flaen eu sefydliadau neu yn eu sector i roi cymorth uniongyrchol i aelodau mwyaf  bregus cymdeithas a phobl sydd wedi dal COVID-19.
  • Darparu gofal critigol i gleifion COVID-19.
  • Arloesi’n sylweddol er mwyn cefnogi pobl fregus a rhai gyda COVID-19 neu eu cymunedau a sectorau.
  • Gwneud ymdrechion hynod  i gadw gwasanaethau hanfodol i fynd.
  • Gwirfoddoli yn y gymuned neu i sefydliadau gwasanaeth i gefnogi’r rhai y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt.

Mae ffurflen enwebu anrhydeddau COVID-19 newydd ar GOV.UK y gall unrhyw aelod o’r cyhoedd ei defnyddio i enwebu unigolyn a fu’n ymateb i’r coronafeirws ar gyfer anrhydedd genedlaethol. Mae’n ffurflen llawer byrrach a symlach nag arfer ac nid yw’n rhaid i bobl sy’n gwneud enwebiadau  roi llythyrau cefnogaeth ac ni ddylai’r broses eu digalonni.  Mae’r wybodaeth ar gael yn – https://www.gov.uk/government/publications/covid-19-honours-nomination-form

Wrth groesawu’r trefniadau hyn dywedodd y Brigadydd Robert Aitken CBE, Arglwydd Raglaw: “Ers dechrau’r argyfwng, clywais a darllenais am enghreifftiau o gyfraniad rhagorol cynifer o unigolion ar draws Gwent mewn ymateb i’r Coronafeirws. Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i bob un ohonynt. Yn yr amgylchiadau digynsail hyn, rwy’n teimlo’n gryfach nag erioed fod yn rhaid i ni wneud popeth a fedrwn i sicrhau y caiff ymdrechion pobl yng Ngwent eu cydnabod yn llawn ac yn gywir gydag anrhydeddau cenedlaethol. Felly, rwy’n annog unrhyw un sy’n byw neu sy’n gweithio yng Ngwent i fynd ati ac enwebu unigolion i gael eu hystyried am wobr genedlaethol am eu rôl rhagorol mewn ymateb  i COVID-19. Rwy’n gwirioneddol obeithio y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn fel ffordd bwysig o ddangos yn glir pa mor falch yr ydym o lwyddiannau pobl yng Ngwent yn wyneb gwir drallod a’r her a achoswyd gan y Coronaferirws.”