Skip to Main Content


Mae BywydMynwy, darparydd gwasanaethau hamdden, twristiaeth a diwylliannol Cyngor Sir Fynwy, wedi datgelu cynlluniau ar gyfer ailddatblygu Canolfan Hamdden Cil-y-coed ar gost o filiynau o bunnau.

Datgelodd BywydMynwy ei gynlluniau ar wefan neilltuol – www.monlifeleisuredevelopment.co.uk – sydd hefyd yn annog preswylwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar gyfer y datblygiad arfaethedig.

Mae’r cynnig yn dilyn cwblhau’r prosiect yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy, a orffennwyd yn 2019. Mae hefyd yn cadarnhau ymrwymiad BywydMynwy i fuddsoddi mewn cynlluniau a fydd o les i iechyd a llesiant y gymuned ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â nawr.

Mae’r cyfleusterau newydd a gynigir yn cynnwys ardal chwarae antur i blant, ystafelloedd ffitrwydd estynedig, stiwdio ymarfer sy’n defnyddio pŵer, stiwdio troelli, ystafelloedd newid ffitrwydd, stiwdio/ystafell gymunedol, pentref newid ar gyfer y pwll a chyfleusterau newid awyr agored. Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar gyfer caffe, derbynfa newydd, safle edrych ar gyfer y pwll, parc sglefrio newydd, gofodau parcio ychwanegol ac adnewyddu’r pwll nofio.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am BywydMynwy: “Mae aelodau etholedig Sir Fynwy wedi ymrwymo i fuddsoddi a datblygu cyfleusterau hamdden ar draws ein sir i gefnogi iechyd a llesiant ein dinasyddion. Bydd y buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau hamdden yn cael effaith sylweddol ar lesiant, nid yn unig yn awr, ond hefyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Gwahoddir preswylwyr i roi eu barn ar y cynllun drwy lenwi arolwg ar-lein a chofrestru i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ymweld â: www.monlifeleisuredevelopment.co.uk.  Caiff eu henwau wedyn eu cynnwys mewn cystadleuaeth gyda chyfle i ennill aelodaeth blwyddyn i MynwyEgnïol neu ddyfais olrhain ffitrwydd Fitbit Charge 4. Dewisir enwau dau enillydd allan o het ddydd Llun 3 Awst 2020 a chysylltir â nhw drwy e-bost.