Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn darparu cyfle newydd i bobl sydd â diddordeb mewn maethu i fwynhau sgwrs gyflwyniadol anffurfiol. Mae gwasanaeth Maethu 5 ar gael rhwng 3pm a 4pm ar ddyddiau Mawrth a rhwng 7pm i 8pm ar ddyddiau Iau a gellir cael mynediad iddo drwy archebu amser gyda thîm maethu’r cyngor fydd yn cysylltu drwy alwad ffôn neu fideo gyda’r rhai sy’n gwneud cais.

Mae 5 Maethu yn cynnig cyfle i gael sgwrs gyfeillgar bum-munud ond gellir ymestyn pob archeb i 20 munud os oes angen. I drefnu slot, ewch i: shorturl.at/acEHT

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am faethu: “Bydd ein gwasanaeth 5 Maethu newydd yn rhoi gwybodaeth, opsiynau ac atebion yn gyflym ac yn ffurfiol heb unrhyw rwymedigaeth os ydych erioed wedi ystyried maethu. Gall 5 Maethu eich llywio i’r porth a allai wneud pob gwahaniaeth i fywyd plentyn.”

I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01873 735950 neu ymweld â monmouthshire.gov.uk/fostering