Skip to Main Content


Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gosod gorchymyn rheoli traffig dros dro ar wahanol ffyrdd yn ardal Clydach a Maesygwartha yn dilyn pryderon a fynegwyd gan breswylwyr lleol. Daw Gorchymyn Gwahardd Gyrru (Heblaw am Fynediad) y Cyngor i rym ddydd Llun 8 Mehefin ac mae ei angen oherwydd fod gwaith ar gynllun gwella A465 Blaenau’r Cymoedd wedi arwain at i gerbydau a gaiff eu gyrru gan bobl nad ydynt yn byw yn lleol i ddefnyddio ffyrdd lleol fel llwybr byr.

Effaith y gorchymyn fydd gwahardd gyrru – heblaw am fynediad – ar y ffyrdd dilynol dros dro:

·         Heol yr Eglwys

·         Clos y Berllan

·         Heol Cymro

·         Hen Heol y Fenni

·         Prif Heol

·         Heol Rhonas

·         Heol Maesygwartha

·         Rhes yr Efail, Beaconsfield

·         Clos yr Hen Reithordy

a bydd yn ymestyn i rwydwaith priffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent hyd at gylchfan newydd Hafod. Bydd y gorchymyn yn parhau am 18 mis neu hyd nes cwblhawyd gwaith Blaenau’r Cymoedd, p’un bynnag sydd gyntaf. Cedwir mynediad ar bob amser i adeiladau sy’n wynebu’r darnau o ffyrdd yr effeithir arnynt yn ystod cyfnod y cyfyngiad.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet Sir Fynwy dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth: “Rwy’n hyderus y bydd y mesur cyfreithiol hwn yn cael yr effaith a ddymunir ac yn bodloni preswylwyr Clydach a Maesygwartha fel na fyddant yn dioddef oherwydd gyrwyr sy’n edrych am lwybr cyflym tra bod gwaith yn parhau ar gynllun lôn cerbyd ddeuol Blaenau’r Cymoedd.”