Skip to Main Content


 Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyflwyno cynnig am orsaf reilffordd newydd ym Magwyr, ynghyd â grŵp cymunedol lleol Grŵp Gweithredu Rheilffordd Magwyr (MAGOR). Gwnaed y cais am orsaf rhodfa – gorsaf y mae’r boblogaeth leol yn ei chyrraedd yn bennaf drwy gerdded a seiclo – i Gronfa Gorsafoedd Newydd yr Adran Trafnidiaeth gyda’r nod o  sicrhau mynediad gwell a chynaliadwy i gyrchfannau allweddol ar gyfer preswylwyr Magwyr gyda Gwndy.

Mae ehangu poblogaeth yr ardal a thwf cyflogaeth yng Nghaerdydd a Bryste wedi arwain at gynnydd yn y galw am drafnidiaeth gyhoeddus. Byddai trenau’n rhedeg bob awr i’r ddwy ddinas o’r orsaf arfaethedig yn ogystal â Chasnewydd, Caerloyw a Cheltenham.

Mae holl boblogaeth Magwyr gyda Gwndy, y disgwylir y bydd yn cynyddu i 10,000 dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, o fewn milltir i’r safle a ffafrir ar gyfer yr orsaf. Mae hyn yn rhoi cyfle i agor gorsaf rodfa integredig unigryw sy’n gysylltiedig â’r gymuned yn agos at ganolfan gymunedol arfaethedig.

Bydd y safle arfaethedig yn cynnwys nodweddion sy’n gysylltiedig fel arfer gyda gorsafoedd modern megis parcio beiciau, goleuadau LED a theledu cylch cyfyng yn ogystal â safle bws a chyfleusterau aros gyda mynediad o’r radd flaenaf i gerddwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Bydd y gymuned yn croesawu dychweliad teithio rheilffordd i Magwyr gyda Gwndy ar ôl blynyddoedd lawer a bydd yn cynnig llawer o fuddion. Bydd yn dod â chyflogaeth, manwerthu, gofal iechyd, addysg a chyfleoedd hamdden yn nes ar gyfer preswylwyr ac yn gostwng twf traffig ar ffyrdd lleol prysur. Bydd yn gostwng yn sylweddol y nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir gan drafnidiaeth ac yn hyrwyddo teithio integredig cynaliadwy. Mae’r cyngor a MAGOR wedi gwneud cais yn flaenorol am gyllid o’r Gronfa Gorsafoedd Newydd, ac er i ni gael adborth cadarnhaol iawn gan yr Adran Trafnidiaeth, roeddem yn aflwyddiannus gan fod cynigion eraill wedi eu datblygu ymhellach. Ar ôl gwneud mwy o waith ymchwilio ac achos cryfach, gobeithiwn y gall fod yn llwyddiannus y tro hwn.”

Ychwanegodd Ted Hand ar ran MAGOR: “Mae cysyniad Gorsaf Rhodfa Magwyr gyda Gwndy yn unigryw. Gorsaf fydd yn gwneud yr hyn y mae’n ei ddweud ar arwydd yr orsaf – gorsaf hygyrch cerdded/seiclo/trafnidiaeth gyhoeddus. Cyn belled ag y gwyddom, dyma’r orsaf rodfa neilltuol gyntaf i agor mewn 100 mlynedd a’r gyntaf i Sir Fynwy, Cymru a Phrydain mewn blynyddoedd diweddar. Bydd yn achos o nôl i’r dyfodol ar gyfer ein cymuned. Gobeithio mai dyma’r cyntaf o lawer o’r math yma o orsaf i agor ym Mhrydain – gorsafoedd a gaiff eu cynllunio’n benodol i ostwng llygredd, integreiddio trafnidiaeth gyhoeddus a chael pobl yn egnïol. Bydd yr holl elfennau hanfodol hyn yn hanfodol i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Y nod hefyd yw darparu datrysiad holistig ac integredig sydd ei fawr angen ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nglannau Hafren, gan ymuno gwasanaethau bws a chael gorsaf parcio a theithio yng Nghyffordd Twnnel Hafren, ynghyd â cherdded a seiclo i Orsaf Rodfa Magwyr gyda Gwndy.”

Cysylltwch â Christian Schmidt, Swyddog Cynllunio a Pholisi Trafnidiaeth Sir Fynwy

ChristianSchmidt@monmouthshire.gov.uk – i gael manylion pellach.