Skip to Main Content

Mae Sir Fynwy wedi gosod glasbrint ar gyfer gweinyddu nodau’r awdurdod tra bod cymunedau’n wynebu pandemig y coronafeirws. Cyfarfu’r Cabinet o bell dydd Mercher diwethaf (6ed Mai) a chytunwyd ar ein strategaeth gyda phwyslais ar ddiogelu bywyd gyda chefnogaeth i gymunedau ein sir fel y gallant fod yn gynaliadwy ac yn wydn.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Peter Fox: “Mae pandemig coronafeirws COVID-19 wedi peri her ddigynsail i’n ffordd o fyw. Drwy bennu ein nodau strategol yn glir byddwn yn canolbwyntio ar y pethau sydd bwysicaf i’n preswylwyr, ein busnesau a’n sefydliadau, gan lywio ein hymateb nawr a’r trosglwyddiad yn ôl tuag at normalrwydd.”

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod pob unigolyn neu deulu sydd mewn argyfwng yn cael cymorth a byddwn yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol i bawb y mae arnynt eu hangen, gan gynnwys diogelu plant, gofal yn y cartref a gofal preswyl. Byddwn hefyd yn chwarae ein rhan yn y gwaith o olrhain y cysylltiadau COVID, yn ogystal â darparu mynediad i barseli bwyd brys ar gyfer pobl sy’n cysgodi na allant adael eu cartref, cydlynu gwirfoddoli cymunedol a chefnogi banciau bwyd lleol. Hyd yn hyn, rydym wedi ffonio dros 1,300 o bobl i wirio’u lles.

Bydd plant y gweithwyr allweddol yn derbyn darpariaeth briodol mewn ysgolion hyb tra bydd disgyblion eraill y Sir yn parhau â’u haddysg gartref, gan roi pwyslais ar sicrhau bod pawb yn cael mynediad digonol at dechnoleg ddigidol.

Bydd busnesau lleol yn parhau i dderbyn grantiau Covid-19 Llywodraeth Cymru ac rydym yn cydnabod bod y cymorth gwerth £17m rydym wedi’i brosesu hyd yn hyn wedi bod yn hanfodol i economi Sir Fynwy. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod taliadau prydlon yn parhau.

Bydd staff yn derbyn yr offer diogelu personol cywir (sef PPE) yn ôl y gofyn a bydd gwaith yn parhau i wneud y defnydd gorau o dechnoleg er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol yn effeithlon ac yn effeithiol. Caiff casgliadau gwastraff domestig ac ailgylchu eu blaenoriaethu gyda nifer y cerbydau’n cynyddu a’r adnoddau’n cael eu dargyfeirio o wasanaethau eraill.

Mae mesurau eraill mewn lle a gellir dod o hyd i’r rhain ar dudalennau coronafeirws ein gwefan – https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/gwasanaethau/46943-2/coronafeirws/

Parhaodd y Cynghorydd Fox: “Er gwaethaf heriau’r misoedd diwethaf, mae ein hymateb i bandemig y coronafeirws wedi arwain at ddulliau arloesol o gynnal ein busnes o ddydd i ddydd. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau cyflym yn ein seilwaith digidol, mynychu cyfarfodydd o bell a mwy o newid diwylliannol gyda thimau amrywiol yn cyfuno fel rhan o un system. Gall y gwelliannau hyn ffurfio rhan o waddol parhaus o drawsnewid a chaiff anghenion eu diwallu mewn ffyrdd newydd. Yn y cyfamser, rwy’n diolch o galon i’r holl staff yn ogystal â gwirfoddolwyr y Sir wrth i ni fynd i’r afael â sefyllfa mor ddieithr. Gyda’ch cymorth a’ch cydweithrediad, gallwn lwyddo i symud ymlaen a gadael y coronafeirws yn y gorffennol.”