Skip to Main Content

Mae gerddi, mawr a bach yn lleoedd ffantastig i bob math o blanhigion ac anifeiliaid.  Mae Wythnos Natur Cymru yn ymwneud â natur yn ein gerddi ac mae’r hwyl yn dechrau ddydd Sadwrn, gyda digwyddiadau yn rhedeg tan ddydd Sul 7fed Mehefin.

Rhannwch eich storïau am gwrdd â’r amrywiaeth anhygoel o adar, planhigion brodorol, gwenyn a chwilod sy’n rhannu eich gardd. Efallai y byddwch yn ddigon ffodus i gael ymweliad gan ddraenog. Ac wrth gwrs, gallwch ymuno os nad oes gennych ardd drwy edrych ar natur o’ch ffenestr.

Er mwyn cychwyn yr wythnos , ymunwch â’r Bioblitz Gerddi ar 30ain Mai. Mae’n agored i bawb, yn hwyl ac am ddim, i gyd sydd rhaid gwneud yw mynd allan ac edrych ar natur yn eich gardd neu o’ch ffenestr. Yn bwysicaf oll, dywedwch wrth bawb am beth rydych wedi gweld yn yr ardd a pheidiwch ag anghofio eu rhannu a’u tagio gyda @WBP_wildlife, @LNPCymru a @MonmouthshireCC

Ymunwch â Swyddog Cadwraeth ac arbenigwr gwenyn Buglife Cymru, Liam Olds ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb fyw ar wenyn ar ddydd Llun. Os oes gennych gwestiwn, pryder neu dim ond stori i’w rhannu am wenyn yn eich gardd, yna gofynnwch i’r arbenigwr am 3pm ddydd Llun, yn fyw ar Twitter @NPTWildlife

“Ar ôl y cyhoeddiad diweddar mai Trefynwy yw tref wenyn gyntaf y DU, mae’n amlwg ein bod ni yma yn Sir Fynwy yn angerddol am yr amgylchedd.  Rwy’n edrych ymlaen at weld y lluniau gwych niferus o ieir-bach-yr-haf, pryfed, blodau a phob math o fywyd gwyllt y bydd trigolion o bob oed yn eu rhannu dros Wythnos Natur Cymru,” meddai’r Cynghorydd Sir Jane Pratt, Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth.

Drwy gydol yr wythnos, bydd arbenigwyr cadwraeth wrth law i ateb cwestiynau ar-lein, bydd yr arbenigwr gwyfynod a’r cofnodydd sir, Barry Stewart yn datgelu canlyniadau noson o ddal gwyfynod yn fyw o’i ardd yn ystod Wythnos Natur Cymru (2il Mehefin). Yn y cyfamser, mae’r Cwis Natur Mawr ar 4ydd Mehefin, sy’n cael ei chynnal gan Ganolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru yn siŵr o fod yn boblogaidd – gwnewch yn siŵr eich bod ar-lein ar gyfer y cychwyn am 7pm.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein byd naturiol, yn ogystal â chynnig cyfle i bawb cymryd eiliad a bwrw golwg agosach ar y bywyd gwyllt yn eu cymdogaeth,” meddai’r Cynghorydd Richard John, Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Sir Fynwy. “Bydd yn hynod ddiddorol gweld beth mae pobl yn llwyddo gweld yn eu gerddi wrth iddyn nhw gymryd rhan yn y gweithgareddau ar-lein.”

I grynhoi’r wythnos i ffwrdd, ymdrwythwch eich hun o ran natur er mwyn elwa ar ei bwerau iacháu ar Ddiwrnod Lles Natur ar y 6ed Mehefin ac yna ychydig o wylio adar o’ch cadair freichiau ar y 7fed Mehefin.

Am restr lawn o ddigwyddiadau a sut i gymryd rhan ewch i: https://wcva.cymru/cy/cyfle-i-ddarganfod-natur-yn-eich-gardd-yn-ystod-wythnos-natur-cymru/

Nodyn i’r Golygydd: Mae Wythnos Natur Cymru wedi cael ei threfnu gan y Prosiect Partneriaeth Natur Lleol (PNLl) Cymru. Mae Menter PNLl Cymru yn brosiect tair blynedd sy’n rhedeg tan fis Ebrill 2022, ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gydlynu gan CGGC. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys yr holl awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol yng Nghymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CGGC a’r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol.