Skip to Main Content

Gall pob gweithiwr allweddol (hanfodol), aelodau a’u haelwydydd a’u cysylltiadau uniongyrchol gael eu profi ar gyfer COVID-19 yn y ganolfan profi yn Rodney Parade, Casnewydd.

Dylai unigolion sydd â symptomau COVID-1 anfon e-bost yn uniongyrchol at  COVID-19.Testing.Unit.ABB@wales.nhs.uk i ofyn am brawf – dylent anfon e-bost ar y diwrnod cyntaf maent yn profi symptomau. Gall cyflogwyr barhau i wneud atgyfeiriad ar ran eu gweithwyr cyflogedig, yn arbennig os yw’n rhan o strategaeth i gael eu staff yn ôl i’r gwaith.

Prif symptomau COVID-19 yw:

  • tymheredd uchel – mae hyn yn golygu eich bod eich brest neu gefn yn teimlo’n dwym (nid yw’n rhaid i chi fesur eich tymheredd);
  • peswch newydd, parhaus – mae hyn yn golygu peswch llawer am fwy na awr, neu 3 neu fwy o gyfnodau peswch mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gall hyn fod yn waeth nag arfer);
  • colli neu newid i’ch ymdeimlad o arogl neu flas – mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli neu flasu unrhyw beth, neu fod pethau’n arogli neu flasu’n wahanol i’r arfer.

Dylai gweithwyr cyflogedig bob amser ddilyn polisi salwch eu cyflogwr a chyfrifoldeb y gweithiwr cyflogedig i hysbysu eu cyflogwr os ydynt yn dod yn wael a chanlyniad eu prawf. Os yw rhywun heb fod yn profi’r symptomau hyn ond heb fod yn teimlo’n ddigon da i fynd i’w gwaith, dylent ddilyn polisi salwch y cyflogwr fel y byddent fel arfer. Os yw unigolyn angen cyngor meddygol ar frys, dylent gysylltu â’u meddyg teulu neu ffonio 111. Os ydynt yn profi symptomau sy’n bygwth bywyd, dylent ffonio 999.

Bydd pawb a brofir yn Rodney Parade yn derbyn neges destun gyda’u canlyniad gyda dolen i’w dilyn ar gyfer cyngor ac arweiniad.

Mae’r safle prawf yn Rodney Parade yng Nghasnewydd a rhaid trefnu pob apwyntiad ymlaen llaw yn defnyddio’r broses archebu a amlinellir uchod. Mae’r ganolfan ar agor rhwng 08:00 a 18:00, saith diwrnod yr wythnos.

Dylai pawb barhau i ddilyn canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd ar gael yma: https://phw.nhs.wales/topics/latest-information-on-novel-coronavirus-covid-19/.