Skip to Main Content

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent, partneriaeth rhwng pum awdurdod lleol yr ardal a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, wedi sefydlu sesiynau cyngor ar-lein i roi cymorth a chefnogaeth i’r rhai sydd â’r cyflwr a’u teuluoedd. Bydd y rhain yn rhan o dreial i ddisodli cyfarfodydd wyneb yn wyneb tra bod pandemig y coronafeirws yn parhau. Bydd y sesiynau peilot ar gael ar 19eg Mai, 26ain Mai ac 2il Mehefin am 10.30am, 11.30am, 1pm a 2pm, ac os bydd y gwasanaeth yn llwyddiannus byddwn yn parhau.

Meddai Siân Delyth Lewis, rheolwr Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent: “Mae ein sesiynau cymorth a chyngor rhithwir yn ddatblygiad newydd a grëwyd i gwrdd â’r angen cymunedol am gyngor a chefnogaeth ynglŷn ag awtistiaeth tra’n bod ni yng nghanol pandemig y coronafeirws. Rydym wedi gorfod sicrhau bod ein darpariaeth wyneb yn wyneb ar gadw, felly mae hyn yn ffordd y gallwn barhau i gefnogi pobl yn y gymuned. Mae’r adborth o’r sesiynau blaenorol wedi bod yn dda iawn ac roeddem am ddod o hyd i ffordd o gynnal cefnogaeth.”

Dylai preswylwyr sydd am gymryd rhan drefnu apwyntiadau drwy anfon e-bost at asdservice.abb@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 01633 644143. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal gan ddau o staff cymorth Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent ac yn cael eu cynnal gan ddefnyddio’r ap negeseua Microsoft Teams – bydd canllawiau’n cael eu darparu i helpu i gael gafael ar yr ap. Bydd angen ar gyfranogwyr dyfais electronig gyda chysylltiad â’r rhyngrwyd a byddant yn gallu trafod unrhyw faterion sy’n ymwneud ag awtistiaeth.

Mae’r gwasanaeth wedi rhoi sicrwydd ei fod ar gael dros y ffôn neu drwy e-bost i unrhyw un sy’n anghyfforddus gydag apwyntiad rhithwir neu ddefnyddio Microsoft Teams.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Penny Jones, Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd: “Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer, yn enwedig y rhai sydd â chyflwr iechyd hirdymor, ac mae pobl ag awtistiaeth yn aml yn ei chael hi’n anodd ymdopi â newid a rheoli pryder. Rwy’n croesawu’r fenter werthfawr hon gyda’i dull arloesol o gefnogi pobl sy’n byw gydag awtistiaeth a’u teuluoedd.”