Skip to Main Content

Mae ‘Bridges’, sy’n elusen annibynnol, wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y trigolion sy’n manteisio ar ei fenter cyfeillio dros y ffôn ers cyhoeddi’r cyfnod cau oherwydd pandemig y coronafeirws. Ers y cyfnod cau mae mwy o bobl wedi dioddef o unigrwydd ac mae ‘Bridges’ wedi helpu lleddfu’r ymdeimlad o unigedd drwy ehangu ei gynllun Cysylltiadau Cymunedol. Cymaint yw’r galw a gyhoeddwyd gan yr elusen o Drefynwy mae mwy na 130 o wirfoddolwyr newydd wedi cael eu hyfforddi i gefnogi’r gwasanaeth.

Mae staff Cysylltiadau Cymunedol a thimau Gwirfoddoli dros Les ‘Bridges’ wedi cydweithio i ddarparu’r gwasanaeth i fwy o bobl nag erioed. Dylai preswylwyr a fyddai’n hoffi defnyddio’r gwasanaeth cyfeillio hwn ffonio Cysylltiadau Cymunedol ar 01600 888481 neu e-bostio: contact@befriendingmonmouthshire.org.uk

“Roeddem yn cyfeillio 14 o bobl dros y ffôn cyn yr argyfwng. Erbyn hyn, mae dros 120 o bobl yn derbyn galwadau drwy gydol yr wythnos. Mae’r gwasanaeth yn agored i unrhyw un a fyddai’n cael budd o alwad ffôn rheolaidd a chyfeillgar bob wythnos,” esboniodd Vicki Pitt, Arweinydd Tîm Cysylltiadau Cymunedol.

“Rydym yn gobeithio, ar ôl yr argyfwng, y bydd llawer o’r perthnasau a ddechreuir yn ystod y cyfnod cau yn parhau i ffynnu ac y bydd pobl yn gallu cwrdd â’i gilydd wyneb yn wyneb os dymunant. Bydd y gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn hefyd yn parhau fel gwasanaeth sefydledig ynddo’i hun.”

Nid oes amheuaeth bod y galwadau ffôn rheolaidd hyn yn golygu llawer iawn i’r rhai sy’n byw ar eu pen eu hunain: Dywedodd preswylydd Mr P: “Mae’r gwasanaeth hwn wedi bod yn amhrisiadwy i’m teulu yn ystod y pellhau cymdeithasol oddi wrth fy mam 92 oed. Mae hi’n edrych ymlaen at ei galwad ffôn wythnosol ac mae’n wych iddi sgwrsio â rhywun y tu allan i’r teulu. Diolch yn fawr!”

Cafodd cyfeillio dros y ffôn ei sefydlu yn 2018 fel mesur tymor byr i gefnogi pobl oedrannus a oedd yn aros i gael eu paru â chyfaill wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, profodd y gwasanaeth yn boblogaidd iawn a hyd yn oed pan oedd cyfaill wedi ei ddarganfod, roedd pobl am i’r galwadau ffôn barhau.

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd, “Rydym oll yn ddiolchgar am y gwaith aruthrol a wneir gan y gwirfoddolwyr o ‘Bridges’, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gynifer o drigolion Sir Fynwy. Mae’r cynllun Cysylltiadau Cymunedol yn ddull effeithiol ac anymwthiol o ddarparu pobl â chwmni ac mae’n ateb perffaith i unigedd cymdeithasol yn ystod y pandemig. Rwy’n gobeithio y bydd y cyfeillgarwch a grëwyd yn ystod y cyfnod anodd hwn yn cynnig cymorth ac yn para’n hir ar ôl i’r cyfnod cau ddod i ben.”D

Elusen annibynnol yn Nhrefynwy yw ‘Bridges’, a sefydlwyd ym 1984, a’i nod erioed yw gwella lles y gymuned leol. Mae’r ganolfan ar gyfer ei gwaith ers 2003 wedi bod yn Nhŷ Drybridge, sy’n rhan bwysig o dreftadaeth Trefynwy. Sefydlwyd yr elusen i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn, pobl o ardaloedd gwledig ynysig, oedolion ifanc sydd ag anghenion ychwanegol, pobl â phroblemau symudedd a’r rheini sydd o dan anfantais economaidd.