Skip to Main Content

Cyngor yn edrych am eiddo gwag i letya’r digartref dros y pandemig Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi apêl i berchnogion eiddo gwag i’w darparu fel llety dros dro. Defnyddid yr eiddo i roi lloches i bobl ddigartref tra bod y pandemig coronafeirws yn parhau, a byddai gan y cyngor ddiddordeb neilltuol mewn llety ar rent, cartrefi gwyliau ac ystafelloedd mewn sefydliadau Gwely a Brecwast neu westai yn y sir. Byddai’r cyngor yn dod yn gyfrifol am dalu rhent ar gyfer eiddo neu ystafelloedd yn ystod cyfnod y trefniant hwn. Mae’r pandemig wedi rhoi sylw i faterion penodol sy’n cael effaith niweidiol ar bobl fregus a chanllawiau Llywodraeth Cymru i drin hyn, yn neilltuol y rhai’n ymwneud â phobl sy’n cysgu ar y stryd. Mae’n rhaid i’r cyngor sicrhau fod gan bobl ddigartref fynediad i gyfleusterau sy’n eu galluogi i gydymffurfio gyda chanllawiau iechyd cyhoeddus ar hylendid neu ynysu er mwyn gostwng risg trosglwyddo i’w hunain ac eraill. Fel canlyniad, mae’r cyngor eisiau cynyddu faint o lety argyfwng sydd ar gael. Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol: “Mae tîm tai y cyngor yn edrych am eiddo addas y gellid eu defnyddio ar gyfer llety argyfwng tymor byr. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai landlordiaid neu berchnogion eiddo gwag y gallem eu rhentu ar sail dros dro gysylltu â ni.” Gall landlordiaid a pherchnogion eiddo a all helpu’r cyngor neu a hoffai gael mwy o wybodaeth gysylltu â Lindsay Stewart – lindsaystewart@monmouthshire.gov.uk – ffôn 01291 635713 neu 07899 040624.