Skip to Main Content


Mae Cyngor Sir Fynwy wedi nodi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl drwy roi sylw i rai o’r gwasanaethau y mae wedi eu darparu i sicrhau y gall preswylwyr ymdopi’n dda yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae’r cyngor wedi canolbwyntio ar iechyd meddwl tra bod y cyfyngiadau symud mewn grym ac wedi ysgogi nifer o gynlluniau i helpu cymunedau’r sir.

Mae tîm Datblygu Llesiant Cymunedol y cyngor wedi cyhoeddi llyfryn defnyddiol yn rhestru ffynonellau cyngor gyda gwybodaeth ar sut mae sefydliadau yn darparu gwasanaethau yn ystod y cyfyngiadau symud. Ymysg y sefydliadau y rhoddir sylw iddynt mae Cyngor ar Bopeth, gwasanaeth mentora cymheiriaid Cyfle Cymru, elusen iechyd meddwl Mind, Cymorth i Fenywod, Prosiect Cynhwysiant Cymdeithasol Cymdeithas Tai Sir Fynwy, grŵp Pobl yn Gyntaf ar gyfer rhai gydag anabledd dysgu a PaCE (‘Parent, Childcare and Employment’), prosiect cyflogadwyedd sy’n helpu rhieni i waith drwy fynd i’r afael â rhwystrau gofal plant.

Mae’r tîm Datblygu Llesiant Cymunedol ei hun yn cefnogi unigolion a grwpiau i drechu unigrwydd ac arwahanrwydd drwy sefydlu cymunedau ar-lein, sy’n cysylltu pobl gydag unigolion o’r un anian, cynnig cefnogaeth ymarferol i argraffu taflenni a phosteri a hyd yn oed drefnu cyd-ganu o ffenestri! I gael manylion neu gopi o’r llyfryn cysylltwch â

Fred Weston – fredweston@monmouthshire.gov.uk – neu ffonio 07890 559566.

Mae gwasanaeth Cymunedol a Phartneriaethau y cyngor yn cefnogi preswylwyr sy’n hunanynysu drwy eu cysylltu gyda gwirfoddolwyr lleol a all gynorthwyo gyda thasgau tebyg i gasglu siopa hanfodol a phresgripsiynau. Yn y cyfamser, mae grwpiau gwirfoddol lleol yn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad yn eu cymunedau gyda gweithgareddau ar-lein hwyliog tebyg i ddrysau gwisgo lan a gerddi agored rhithiol. Mae’r tîm hefyd wedi ffonio dros 2,500 o bobl ar y rhestr gwarchod i wirio ar eu llesiant yn ogystal â chefnogi gwirfoddoli cymunedol a banciau bwyd lleol. Gall preswylwyr gael mwy o wybodaeth drwy anfon e-bost at partnerships@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644696.

Mae ysgol gartref, absenoldeb y drefn arferol ar gyfer plant a ffactorau eraill yn gysylltiedig gyda’r cyfyngiadau symud pandemig wedi gosod pwysau ychwanegol ar deuluoedd felly mae tîm Adeiladu Teuluoedd Cryfach wedi sefydlu llinell gyngor dros dro. Yn ogystal â chynnig cymorth, mae’r tîm hefyd yn cynnig syniadau ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau y gall rhieni eu rhannu gyda’u plant. Dylai preswylwyr sy’n dymuno defnyddio’r cyfleuster ffonio 01633 644152 neu 07970 166975 – testun a WhatsApp ar gael – neu e-bost: earlyhelppanel@monmouthshire.gov.uk

Wrth siarad am y gwasanaeth dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, Aelod Cabinet Sir Fynwy ac sy’n gyfrifol am iechyd meddwl: “Mae’n ddealladwy, yn y cyfnod hwn o ansicrwydd a newid, y gallai pethau ymddangos yn llethol weithiau. Mae ein gweithwyr cymorth teuluoedd yn gwybod pa mor bwysig yw cael mynediad i’r cymorth cywir, a dyna pam ein bod yn rhedeg ein llinell cyngor. Bydd ein cydlynydd panel yn ateb eich ymholiad a bydd un o’n gweithwyr cymorth teulu profiadol yn eich ffonio ar amser sy’n eich gweddu i gynnig clust i wrando, cefnogaeth, cyngor neu arweiniad.”

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd darllen er pleser yn ystod y cyfyngiadau symud a gall aelodau o Lyfrgelloedd Sir Fynwy lawrlwytho eLyfrau ac eLyfrauSain am ddim drwy wasanaeth Borrowbox y Cyngor. Yn y cyfnod heriol hwn, gall y casgliad Darllen yn Well a hyrwyddir gan The Reading Agency helpu i ddeall a rheoli iechyd meddwl gyda rhai teitlau ar gael i’w lawrlwytho fel eLyfrau neu eLyfrauSain. I gael mwy o wybodaeth ewch i https://reading-well.org.uk/wales

Cafodd Llyfrau Codi Hwyliau The Reading Agency eu dewis am eu nodweddion calonogol a chodi hwyliau ac mae rhai o’r teitlau ar gael drwy Borrowbox. I gael mwy o wybodaeth mewngofnodwch i https://reading-well.org.uk/books/mood-boosting-books

Mae Llyfrgelloedd Sir Fynwy hefyd yn cynnig gwasanaeth cylchgronau ar-lein am ddim, RBdigital, gyda mynediad i rifynnau cyfredol ac ôl-rifynnau o ddewis eang o gylchgronau poblogaeth. I gael mynediad i Borrowbox a RBdigital ewch i: https://www.monmouthshire.gov.uk/community-hubs-libraries/digital-downloads/

Ychwanegodd y Cynghorydd Penny Jones: “Mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio arnom i gyd a rydym yn sylweddoli y gall y cyfyngiadau symud gael effaith niweidiol ar iechyd meddwl pobl. Rydym yn ystyried bod unrhyw gyngor a gymorth y gall y cyngor eu cynnig yn hanfodol i helpu cymunedau’r sir tra’n bod yn aros adref ac yn cadw’n ddiogel.”