Skip to Main Content

O dan y mesurau cyfnod cloi presennol, collwyd llawer o’r cyfleoedd arferol i nodi cam-drin domestig megis cyswllt â gweithwyr proffesiynol mewn apwyntiadau arferol, sy’n golygu y gallai pobl hŷn fod ar eu colled o ran cymorth a chefnogaeth a allai achub bywydau.

Er gwaethaf y pandemig COVID-19, mae timau diogelu a gwasanaethau cymorth Cyngor Sir Fynwy yn dal i fod ar waith, yn ymchwilio i bryderon ac yn sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt fel eu bod yn ddiogel. 

Mae ymgyrch o dan arweiniad grŵp gweithredu newydd a sefydlwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn, sy’n cynnwys Heddlu Gwent, Age Cymru a Llywodraeth Cymru, yn amlygu’r gwaith sy’n cael ei wneud i atal cam-drin pobl hŷn. Mae’n annog y cyhoedd i roi gwybod am unrhyw bryderon a allai fod ganddynt os ydynt yn ofni y gallai person hŷn fod mewn perygl o gael ei gam-drin, neu’n dioddef o hynny’n barod.

Er bod cysylltiad â phobl eraill yn gyfyngedig ar hyn o bryd, mae yna arwyddion o hyd i edrych allan amdanynt gall ddangos bod rhywun yn cael ei gam-drin. Mae’r rhain yn cynnwys arwyddion corfforol megis cleisio neu anafiadau eraill heb esboniad, neu newidiadau mewn ymddygiad, megis mynd yn dawedog, peidio â chael gadael y tŷ (hyd yn oed ar gyfer ymarfer corff bob dydd), llai o gyswllt (gan gynnwys dros y ffôn neu e-bost) gyda theulu neu ffrindiau, neu newidiadau yn y ffordd y mae rhywun yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Dylai unrhyw un sydd â phryderon am berson hŷn gysylltu â thîm diogelu gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Fynwy ar rif ffôn 01873 735492 neu eu heddlu lleol ar 101 (mewn argyfwng ffoniwch 999).

“Mae gennym oll rôl i’w chwarae wrth amddiffyn pobl hŷn. Mae edrych am arwyddion camdriniaeth ac adrodd am unrhyw bryderon sydd gennym yn llythrennol yn gallu achub bywydau. Byddwn yn annog unrhyw un, sydd ag unrhyw bryderon y gall person hŷn y maent yn gwybod bod mewn perygl o gael ei gam-drin, gysylltu â thîm diogelu ei gyngor neu’r heddlu,” meddai’r Cynghorydd Sara Jones, Aelod Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.

Mae’r grŵp gweithredu hefyd yn annog gweithwyr proffesiynol a allai ddod i gysylltiad â phobl hŷn drwy eu gwaith i gwblhau cwrs hyfforddiant ar-lein newydd ar gam-drin domestig a ddatblygwyd gan brosiect Dewis Choice Prifysgol Aberystwythhttps://dewis.aber.ac.uk/.

Mae’r hyfforddiant yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys y ffyrdd y gall pobl hŷn brofi cam-drin domestig, y rhwystrau a all atal pobl rhag ceisio cymorth, effaith camdriniaeth ar iechyd meddwl a lles pobl, a’r ffynonellau cymorth a chefnogaeth sydd ar gael. Mae’r hyfforddiant hefyd yn cynnwys pecyn cymorth cynllunio diogelwch sydd wedi’i ddatblygu yn seiliedig ar brofiadau go iawn dros 100 o ddioddefwyr-goroeswyr a oedd yn ymwneud â’r fenter Dewis Choice.

Dywedodd Sarah Wydall, sy’n arwain y fenter Dewis Choice:

“Ers i unigedd ddechrau, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymarferwyr sy’n cysylltu â ni am gyngor, yn enwedig am arweiniad ynghylch cynllunio diogelwch yn yr amgylchiadau newydd hyn. Gwyddom o’n profiad y gall unigrwydd gynyddu difrifoldeb y cam-drin a chyfyngu ar gyfleoedd pobl i ofyn am gymorth a chefnogaeth.  Drwy gynnig yr hyfforddiant ar-lein hwn a chopïau o’n canllawiau i ymarferwyr, gallwn sicrhau bod gan staff rheng flaen yr adnoddau i ddarparu’r ymateb gorau posibl i ddioddefwyr cam-drin domestig hŷn.”

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:  “Byddwn hefyd yn annog gweithwyr allweddol ledled Cymru sy’n dod i gysylltiad â phobl hŷn i gwblhau’r hyfforddiant Dewis Choice, gan y bydd hyn yn rhoi’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt am sut i adnabod camdriniaeth a ble y gallant fynd i gael person hŷn cymorth a chefnogaeth hanfodol yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth am waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ewch i www.olderpeoplewales.com/cy/Home.aspx

DIWEDD