Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi y bydd ei ganolfannau ailgylchu yn Llan-ffwyst a Five Lanes yn ail-agor ar ddydd Mawrth 26ain Mai. Mae cynlluniau manwl wedi’u rhoi ar waith i sicrhau bod ymweliadau preswylwyr â’r ganolfan yn cael eu rheoli mewn ffordd ddiogel a strwythuredig, gan gydymffurfio â’r holl gyngor cyfredol ar ymbellhau cymdeithasol.

Yn y cyfnod cychwynnol hwn o ailagor mae’r Cyngor wedi pwysleisio y dylid cynnal ymweliadau â’r ganolfan dim ond os ydynt yn cael eu dynodi’n hanfodol ac yn risg i ddiogelwch neu iechyd i gadw’r gwastraff gartref. Os gellir ailgylchu’r eitemau drwy’r casgliadau rheolaidd, megis cardfwrdd, dylid rhoi’r eitemau hyn yn y bagiau ailgylchu coch neu borffor priodol i’w casglu.

Ni fydd preswylwyr yn gallu troi i fyny heb rybudd. Mae archebu slot amser yn hanfodol. Bydd unrhyw un sy’n troi i fyny heb rybudd yn cael eu troi i ffwrdd wrth y giât. Bydd manylion am sut i archebu slot amser yn cael eu cyhoeddi’r wythnos nesaf, cyn gynted ag y caiff y system newydd ei rhoi ar waith a’i phrofi’n drylwyr. Cadwch olwg ar gyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/ am fanylion cyn gynted ag y byddant ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, yr Aelod Cabinet dros Seilwaith, “Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd agor y canolfannau ailgylchu yn Llan-ffwyst a Five Lanes, a diolch i’r trigolion am eu hamynedd tra bu’n rhaid eu cau. Er mwyn ail-agor rydym wedi gorfod ystyried diogelwch pawb dan sylw.”

“O ganlyniad, rydym yn gofyn os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich cartref symptomau o COVID19 neu eich bod yn cysgodi ar hyn o bryd, peidiwch ag ymweld â’r canolfannau. Ewch yno dim ond os yw’n hanfodol. Cydymffurfiwch â’r ymbellhau cymdeithasol pan fyddwch chi’n ymweld, ac ewch â’ch menig neu eich diheintydd dwylo eich hun gyda chi. Mae’n bwysig lleihau eich amser yn y ganolfan ailgylchu, a dyma pam rydyn ni’n gofyn i bawb drefnu eu hailgylchu cyn iddyn nhw adael cartref.  Dylai preswylwyr fynd â’u trwydded gyda nhw i’r ganolfan,” esboniodd y Cynghorydd Pratt. “Yn bwysicaf oll, archebwch slot amser os ydych am ddefnyddio’r ganolfan ailgylchu. Peidiwch â throi i fyny heb rybudd. Os byddwn i gyd yn cydweithio, ac yn cadw at y canllawiau, bydd y rhai y mae angen iddynt ddefnyddio’r canolfannau yn gallu gwneud hynny’n ddiogel.”

Gellir casglu eitemau gwastraff mwy o faint ar ochr y ffordd hefyd. Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus yn ailgychwyn ar ddydd Llun 18fed Mai, a bydd trigolion yn gallu ffonio Homemakers ar 01873 857618 o 9am er mwyn archebu casgliad. Am fanylion pellach ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/gwastraff-swmpus-a-chasglu-eitemau-mawr/. Oherwydd yr ôl-groniad a achoswyd wedi deufis o fod ar gau, bydd y gwasanaeth ond yn casglu uchafswm o dair eitem (ffi £15). Os oedd gan breswylwyr casgliad wedi archebu, ac ni chasglwyd hynny oherwydd y cyfnod cloi, bydd Homemakers mewn cysylltiad.

Bydd casgliadau gwastraff gardd hefyd yn ailgychwyn o ddydd Llun 18fed Mai. Ar hyn o bryd, nid yw’r Cyngor yn gallu prosesu unrhyw geisiadau newydd neu rai adnewyddu, ond gobeithir mynd i’r afael â hyn yn fuan. Mae gan wefan y Cyngor fwy o wybodaeth am wastraff gardd yn www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/gwastraff-gardd/

DIWEDD