Skip to Main Content


Mae prosiect a sefydlwyd gan therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion yn nhîm iechyd a gofal cymdeithasol integredig Sir Fynwy sy’n seiliedig yn Monnow Vale yn Nhrefynwy wedi cael budd rhoddion o £12,000, diolch i haelioni dau sefydliad. Mae cynllun rhyng-genhedlaeth Owls & Acorns, sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd a theimladau ynysig ymysg pobl hŷn, hefyd wedi derbyn siec gan y Loteri Genedlaethol yn ogystal â Chymdeithas Tir Fynwy.

Dechreuodd Owls & Acorns fel cynllun peilot ddwy flynedd yn ôl yn Ysgol Gynradd Rhaglan i ddod â phobl hŷn a phlant o ddosbarthiadau cyfnod sylfaen ynghyd i fwynhau celf, crefft ac ymarferion am awr a hanner. Mae’r gweithgaredd ar y cyd hwn o fudd i bobl hŷn a phlant fel ei gilydd ac ehangwyd y cynllun erbyn hyn i gynnwys Ysgol Gynradd Brynbuga yn ogystal ag Ysgol Gynradd Kymin View ac Ysgol Gynradd Osbaston yn Nhrefynwy. Y llynedd, cafodd y cynllun ei enwebu ar gyfer gwobr cydnabyddiaeth staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’i gydnabod ar y cyfryngau lleol a chenedlaethol.

Derbyniwyd y rhodd gan Gymdeithas Tai Sir Fynwy drwy ei chynllun cyllid Pitsio dros eich Prosiect sy’n rhoi cyfle i grwpiau ac elusennau lleol gyda syniadau gwych ar gyfer eu cymuned i gynnig am gyfraniad ariannol. Mae hyn, ynghyd ag arian gan y Loteri Genedlaethol, yn golygu sicrwydd ar gyfer gweithgareddau presennol Owls & Acorns.

Pan fydd mesurau cyfyngiadau ar symud coronafeirws yn cael eu llacio, bydd tîm Owls & Acorns yn dychwelyd i weithio yn Rhaglan, Brynbuga a Threfynwy, ac yn ychwanegol bydd yr hwb arian yn eu galluogi i sefydlu prosiectau newydd yn Sir Fynwy lle mae cyfleoedd rhyng-genhedlaeth yn gyfyngedig, un ai yn unol â chynlluniau presennol neu yn y dull mwyaf addas ar gyfer lleoliadau newydd.

Dywedodd John Keegan, Prif Weithredydd Cymdeithas Tai Sir Fynwy: “Rydym yn falch iawn i gefnogi’r prosiect gwych hwn i alluogi iddo barhau ac ehangu i rannau eraill o’r sir. Nid yw’r cynlluniau hyn yn digwydd ohonynt eu hunain; maent angen pobl sy’n ymroddedig i’w cymuned ac yn fodlon rhoi amser i wneud y cymunedau hynny yn gryf, gweithgar ac egniol. Rydym wedi cyllido nifer o brosiectau rhyng-genhedlaeth dros y blynyddoedd ac wrth ein bodd yn gweld pobl yn dod ynghyd a chanfod fod ganddynt gymaint yn gyffredin ac mor barod i rannu eu straeon a’u hamser. Dymunwn lwyddiant parhaus i Owls & Acorns a hoffem eu llongyfarch am eu cynnig ansawdd gwirioneddol uchel ar gyfer cefnogaeth”.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy am Ofal Cymdeithasol ac iechyd: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y dyfarniadau gan y Loteri Genedlaethol a Chymdeithas Tai Sir Fynwy. Fe’u gwerthfawrogir yn fawr gan y byddant yn gwella llesiant mwy o bobl hŷn ar draws y sir ac yn cynnig amgen i fyw’n unig a theimlo’n ynysig. Gwelais drosof fy hun pa mor llwyddiannus yw Owls & Acorns a hoffwn ddiolch i’r staff sy’n cymryd rhan am eu gwaith i’w ddatblygu.

Cysylltwch â LucyHeath@monmouthshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth ar Owls & Acorns.