Skip to Main Content


Mae tîm gofal maeth Sir Fynwy yn edrych am bobl ymroddedig a charedig i gynnig cartref i blant a phobl ifanc o fewn y sir. Yn y cyfnod anodd hwn, mae’n bwysicach nag erioed fod plant yn teimlo’n ddiogel ac yn saff, a gall dod yn ofalwr maeth fod yn un o’r pethau mwyaf gwerth chweil y bydd person yn ei wneud!

Mae’r cyngor yn edrych am bobl a all fod yn fodelau rôl cadarnhaol a rhoi cefnogaeth, anogaeth ac ymdeimlad o berthyn i blentyn neu berson ifanc. Croesewir ceisiadau gan bobl sengl neu rai sydd â phartner yn ogystal â phobl o bob math o gefndir.

Gyda chefnogaeth gwasanaeth maethu y sir, gall Sir Fynwy gynnig cefnogaeth a hyfforddiant lleol i ategu’r safonau uchel o ofal a ddarperir gan ofalwyr maeth y sir. Mae maethu yn un o blith y llu o wasanaethau y mae Sir Fynwy yn eu darparu ac mae’r cyngor yn anelu i sicrhau fod y canlyniad yn un cadarnhaol. Gellir cwblhau’r cais ar-lein neu dros y ffôn, felly ni fydd cyfyngiadau coronafeirws yn rhwystr i breswylwyr sy’n dymuno helpu.

Mae gofalwyr maeth yn derbyn llawer o foddhad o weld plant yn datblygu a’u cadw’n ddiogel yn ogystal â cyflawni a chyrraedd eu potensial a’u huchelgais. Bydd llawer o ofalwyr yn cadw mewn cysylltiad a gwneud gwahaniaeth i fywydau plant, hyd yn oed ar ôl iddynt ddod yn oedolion.

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am faethu: “Gallwch wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd plentyn neu berson ifanc. Gallech gadw plentyn lleol wedi setlo yn eu hysgol eu hunain neu helpu person ifanc sydd â gorffennol anodd. Bydd maethu yn rhoi safbwynt newydd i chi ar fywyd, gallwch ddatblygu sgiliau a chymwysterau newydd a gwneud gwahaniaeth go iawn yn lleol. Os ydych wedi meddwl amdano, dyma’r amser perffaith i wneud cais a rhoi cyfle arall i berson ifanc.”

I gael manylion pellach tecstiwch Foster i 60060, edrych ar Monmouthshire.gov.uk/maethu, anfon e-bost at foster@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01873 735950 – mae’r cyngor yn cynnig cefnogaeth wych i ofalwyr maeth a chyfle i rwydweithio gydag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.