Skip to Main Content

Mae pobl yn Sir Fynwy yn cael eu hannog i barhau, lle’n bosibl, i gyfrannu eitemau bwyd i gefnogi banciau bwyd y sir.

Mae’r cyngor yn annog pobl i feddwl am y banciau bwyd tra byddant yn gwneud eu siopa hanfodol eu hunain. Bydd gan lawer o archfarchnadoedd yn y sir fin bwyd ar flaen y stôr lle medrir gadael cyfraniadau bwyd.

Mae banciau bwyd yn hanfodol wrth gefnogi pobl sy’n wynebu amgylchiadau anodd neu argyfwng ac yn bwysicach byth yn yr argyfwng presennol. Yn aml caiff pobl mewn argyfwng eu hatgyfeirio at fanciau bwyd gan asiantaethau allweddol megis Cyngor Ar Bopeth, gwasanaethau cymdeithasol, canolfannau plant ac ymwelwyr iechyd ac yn y blaen. Mae’r asiantaeth sy’n atgyfeirio wedyn yn rhoi cymorth hirdymor, os oes ei angen, i helpu mynd i’r afael â rhai o’r problemau tu ôl i’r rhesymau am fynediad i’r banciau bwyd.

Os yw’r asiantaeth yn teimlo fod rhywun yn cael trafferthion i roi bwyd ar y bwrdd, byddant yn cyhoeddi taleb banc bwyd. Gall yr asiantaeth atgyfeirio hefyd roi cymorth hirdymor os oes angen i helpu mynd i’r afael â rhai o’r problemau tu cefn i’r rhesymau am argyfwng person.

Arferai Cyngor Sir Fynwy fedru atgyfeirio pobl at y system banciau bwyd drwy hybiau a llyfrgelloedd lleol. Nid yw hyn yn bosibl yn y sefyllfa bresennol ac er mwyn medru parhau i gefnogi rhai sydd angen cymorth argyfwng, gall preswylwyr yn awr gysylltu’n uniongyrchol â’r cyngor. Rhoddir y manylion cyswllt islaw:

Canolfan Cyswllt Sir Fynwy  – 01633 644644

E-bost Sir Fynwy- foodbankteam@monmouthshire.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth am Fanciau Bwyd Sir Fynwy, gall pobl ymweld â

www.monmouthdistrict.foodbank.org.uk

www. chepstow.foodbank.org.uk

www.abergavenny.foodbank.org.uk

www.facebook.com/Caldicot-Food-Bank-184255561731993/