Skip to Main Content

Wrth i benwythnos gwyliau banc y Pasg agosáu mae Cyngor Sir Fynwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phartneriaid eraill ar draws Gwent yn rhannu un neges syml – arhoswch gartref.

Gyda rhagolygon o dywydd da a phenwythnos hirach i bawb ei fwynhau, mae asiantaethau allweddol yn rhybuddio y gall pobl ystyried mentro allan neu anwybyddu cyngor y llywodraeth. Tra bod y frwydr yn erbyn coronafeirws yn parhau, mae pawb yn gwneud eu pwt ac yn aros gartref.

Mae Cyngor Sir Fynwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ynghyd ag asiantaethau allweddol yn cynnwys awdurdodau lleol Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn gosod nifer o heriau i’r cyhoedd ar draws y penwythnos.

Ddydd Gwener 10 Ebrill caiff preswylwyr eu herio i gymryd rhan mewn ‘Cymwynas Gwener y Groglith’, diwrnod sy’n dathlu byd gwych gwirfoddolwyr, cymunedau a gweithwyr ar y rheng flaen a aeth yr ail filltir i helpu eraill yn ystod y cyfnod anodd hwn. Gofynnir i bobl rannu pytiau ffilm byr o’u cymwynasau – p’un ai yn alwad ffôn cyfeillgar i gymydog neu gynnig nôl eu neges. Gofynnir i weithwyr allweddol hefyd i anfon eu pytiau o pam y gall aros gartref wneud gwahaniaeth mawr i’w gwaith pwysig hwythau.

Mae #bankholistay, popeth am aros gartref, ddydd Llun 13 Ebrill. Caiff pobl eu herio i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gartref a defnyddio’r amser i ystyried eu hiechyd a’u llesiant. Bydd y cyngor, ynghyd â’r asiantaethau allweddol, yn rhannu awgrymiadau, cynghorion a heriau ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd BywydMynwy yn cyflwyno nifer o fideos ymarfer ar gyfer pobl i’w wneud yng nghysur eu hystafell fyw neu eu gardd eu hunain. Bydd cydweithwyr o adran hyfforddiant y cyngor hefyd yn rhannu cyngor ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl pan ydych adref. Caiff plant eu herio i fod yn greadigol a gwneud rhywbeth gyda thema’r Pasg o’r holl ffoil, cardfwrdd a phlastig sydd ar ôl o ddeunydd pacio wyau Pasg. Gallai fod yn gwningen, wy neu gyw iâr. Mae hefyd yn ffordd wych i ostwng faint o wastraff a gaiff ei greu yn ystod gwyliau’r banc. Caiff plant hŷn a rhai yn eu harddegau, a allai gael eu temtio i fynd allan i weld eu ffrindiau, y dasg o ddysgu her dawns poblogaidd #blindinglights. Felly edrychwch am yr esgidiau dawnsio hynny a chael y paent a’r glud yn barod ar gyfer penwythnos llawn hwyl i’r holl deulu.

Wrth siarad cyn penwythnos gwyliau’r banc dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, arweinydd y cyngor: “Mae’n sicr y bydd penwythnos y Pasg yn wahanol iawn i’r rhai yn y gorffennol. Pan fedrem fel arfer fod yn treulio’r amser gydag anwyliaid a mynd allan ac o gwmpas, rydym ar bwynt tyngedfennol yn ein brwydr yn erbyn y Coronafeirws felly byddwn yn gofyn i bawb barhau i helpu i arbed bywydau drwy aros gartref. Dim ond os y gwnaiff pawb ohonom ein pwt y gallwn drechu’r clefyd ofnadwy hwn. Nid dim ond cyngor yw aros gartref, dyma’r gwahaniaeth rhwng byw a marw felly dim ond ar gyfer siopa hanfodol ac’h ymarfer dyddiol y dylech fynd allan. Mae aros gartref y penwythnos hwn yn amser gwych i dreulio amser gyda’r plant a chymryd rhan yn yr heriau cyffrous yma. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr holl fideos.”

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym wedi dechrau gweld arwyddion cynnar iawn fod pobl yn aros gartref yn gwneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, mae ffordd bell i fynd ac mae gwasanaethau’r GIG yn wynebu pwysau na welwyd eu tebyg – gofynnir i chi barhau i aros gartref i atal Coronafeirws rhag lledaenu. Rydym yn ymdopi gyda’r galw ar ein gwasanaethau ar hyn o bryd ond gallai hynny newid os yw pobl yn anwybyddu canllawiau’r llywodraeth. Drwy ddilyn y cyngor i aros gartref byddwch yn diogelu gwasanaethau’r GIG rhag cael eu llethu a chaiff llawer o fywydau eu harbed. Byddwn yn apelio ar bawb yng Ngwent i chwarae eu rhan.”

Ychwanegodd Neil Davies, Pennaeth Diogelwch Cartref ac Uned Troseddau Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae ein criwiau wedi mynychu dros 170 o dannau glaswellt a gafodd eu cynnau yn fwriadol yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae’r tannau hyn yn peryglu bywydau ein hymladdwyr tân, yn achosi risg difrifol i’r gymuned a gallant achosi difrod sylweddol i eiddo a’r amgylchedd. I’n helpu i drechu’r broblem yma, bob wythnos rydym yn gosod Her #ArwyrCartref a dros benwythnos gwyliau’r banc rydym eisiau i chi gynllunio poster fydd yn ein helpu i atal tannau glaswellt bwriadol yn Ne Cymru. Caiff y posteri mwyaf creadigol eu dangos yn ein gorsafoedd tân a’u rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. I wneud cais, anfonwch neges uniongyrchol atom ar eich ceisiadau, ein tagio ar @SWFireandRescue neu eu hanfon yn uniongyrchol at media@southwales-fire.gov.uk. Plant dan 13 – gofynnwch i oedolyn cyfrifol eich helpu os gwelwch yn dda. Bydd y gystadleuaeth yn cau am 2pm ddydd Mercher 15 Ebrill a chyhoeddir enw’r enillydd ddydd Iau 16 Ebrill. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am dân glaswellt bwriadol ffonio 101 ar unwaith neu ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Dylai unrhyw un sy’n gweld tân, neu unrhyw un sy’n cynnau tân, ffonio 999 ar unwaith.”

Are gyfer pawb sy’n cymryd rhan yn yr heriau, rhannwch eich fideos ar #GoodDeedsFriday ar Ddydd Gwener y Groglith a #bankholistay ar Ddydd Llun y Pasg.