Skip to Main Content

Mae tîm awdurdod lleol sy’n rhoi help a chymorth i deuluoedd wedi addasu i gyfyngiadau a achoswyd gan bandemig Covid-19 drwy sefydlu llinell cyngor. Mae uned Adeiladu Teuluoedd Cryf Cyngor Sir Fynwy wedi creu’r gwasanaeth ar gyfer teuluoedd i gael mynediad i gymorth ac arweiniad tra na all ei weithwyr gynnal ymweliadau cartref arferol. Bydd yn parhau tra bod y mesurau rheoli coronafeirws mewn grym.

Mae addysgu cartref, diffyg trefn arferol i blant a ffactorau eraill yn gysylltiedig gyda’r cyfyngiadau symud oherwydd y pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd felly bydd tîm Adeiladu Teuluoedd Cryf y cyngor yn ymateb drwy ddarparu cymorth rhwng 10am a 3pm o ddyddiau Llun i ddyddiau Gwener. Mae’r tîm, sydd wedi’i leoli o fewn y gwasanaeth gofal cymdeithasol ac iechyd, hefyd yn cynnig syniadau ac adnoddau ar gyfer gweithgareddau y gall rhieni eu rhannu gyda’u plant. Dylai preswylwyr sy’n dymuno defnyddio’r adnoddau ffonio 01633 644152 neu 07970 166975 – mae testun a WhatsApp ar gael – neu anfon e-bost: earlyhelppanel@monmouthshire.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Penny Jones, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd ar Gyngor Sir Fynwy: “Yn ddealladwy, yn y cyfnod hwn o ansicrwydd a newid, gallai pethau deimlo fel eu bod yn ein llethu weithiau. Mae ein gweithwyr cymorth i deuluoedd yn gwybod pa mor bwysig yw cael mynediad i’r gefnogaeth gywir a dyna pam ein bod yn cynnal ein llinell gyngor dros dro. Bydd cydlynydd y panel yn derbyn eich ymholiad a bydd un o’n gweithwyr cymorth i deuluoedd profiadol yn eich ffonio’n ôl ar adeg sy’n gweddu i chi i gynnig clust i wrando, cymorth, cyngor neu arweiniad.”