Skip to Main Content

Mae cynghorwyr, staff a gwirfoddolwyr yng Nghyngor Sir Fynwy yn parhau i weithio’n eithriadol o galed i sicrhau fod gwasanaethau allweddol yn gweithredu wrth i bandemig COVID-19 gyrraedd cyfnod hollbwysig ar draws y wlad. Mae’r cyngor wedi parhau ei alwad i breswylwyr aros yn ddiogel ac aros gartref i gyfyngu lledaenu’r coronafeirws a gostwng pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae maint a natur y pandemig yn golygu fod y cyngor wedi cymryd pob mesur posibl, yn cynnwys adleoli staff a chynllunio dwys, i gefnogi’r holl breswylwyr, yn arbennig y bobl fwyaf bregus yn y sir. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi llacio neu ddiwygio deddfwriaeth ac mae Tîm Ymateb Argyfwng y cyngor wedi manteisio ar y cyfle i weithredu newidiadau a gostwng effeithiau ar breswylwyr mor gyflym ag sydd modd. Bu cydlynu ar draws y sefydliad yn allweddol i’r llu o gynlluniau a weithredwyd.

Mae casgliadau ailgylchu a gwastraff wedi parhau yn ôl yr arfer er fod rhai llwybrau wedi gweithredu ar batrwm gwahanol oherwydd nad yw staff ar gael oherwydd hunanynysu. Mae’r cyngor yn ymdrechu i sicrhau y caiff unrhyw gasgliadau a gollwyd oherwydd diffyg staff eu trin cyn gynted ag sydd modd. Yn y cyfamser, mae diffyg staff wedi arwain at i’r cyngor ohirio ei wasanaeth casglu gwastraff gardd dros dro ar ôl dydd Gwener 3 Ebrill. Mae hyn yn dilyn cau canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi ar draws y wlad yr wythnos ddiwethaf. Mae’r cyngor wedi ceisio cynnal gwasanaethau eraill cyhyd ag sy’n bosibl, ond mae diogelwch preswylwyr a staff casglu gwastraff yn hollbwysig. Bydd gostwng gwasanaethau heb fod yn hanfodol yn galluogi’r cyngor i barhau i weithredu casgliadau gwastraff blaenoriaeth.

Ffactorau ychwanegol sy’n arwain at y penderfyniad i ohirio casgliadau gwastraff gardd yw na all archfarchnadoedd storio a dosbarthu bagiau gardd a chynwysyddion yn ddiogel a gall y ffaith fod rhai gwneuthurwyr partiau ar gau ostwng nifer y cerbydau cyngor sy’n gweithredu. Caiff trwyddedau cwsmeriaid sydd eisoes wedi talu am y gwasanaeth ei ymestyn pan fydd y gwasanaeth casglu yn ailddechrau. Bydd archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill yn parhau i stocio bagiau coch, porffor a gwastraff bwyd y cyngor. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/recycling-and-waste/

Mae gwasanaeth Prydau Bwyd Sir Fynwy sy’n dosbarthu bwyd wedi’i goginio i bobl fregus ar draws y sir yn gweithredu yn ôl yr arfer ond mae cynnydd mewn galw yn golygu ei fod yn gweithio i eithaf ei allu. I ymdopi gyda hyn, cyflwynwyd cylch ychwanegol o ddosbarthiadau gyda’r nos.

Mae’r cyngor wedi creu Tîm Cymorth Cymunedol rhyng-ddisgyblaeth i gefnogi’r ymateb lleol i’r pandemig ac mae eisoes wedi derbyn dros 125 galwad am gymorth gyda 97 galwad gan rai sy’n dymuno gwirfoddoli a helpu eu cymuned leol. Mae timau datblygu ardal yn gweithio’n uniongyrchol gyda grwpiau gweithredu cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr yn cynnig cymorth, arweiniad a help gyda chydlynu. Mae’r cyngor yn dymuno cynyddu nifer y gwirfoddolwyr sy’n cymryd rhan yn ddiogel yn y gymuned yn ystod y pandemig COVID-19 ac yn cynnig cyfle iddynt gael gwiriad DBS, cwblhau hyfforddiant diogelu a derbyn canllawiau ar wirfoddoli. Gall y tîm hefyd roi preswylwyr sy’n hunanynysu mewn cysylltiad gyda grwpiau gweithredu gwirfoddolwyr i’w helpu gyda phethau fel siopa hanfodol neu gyfeillachu dros y ffôn. Dylai preswylwyr sydd angen cymorth neu sy’n dymuno gwirfoddoli gysylltu â: partnerships@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644696.

Yn ystod gwyliau’r Pasg bydd dau hyb yn darparu gofal ar gyfer plant gweithwyr allweddol ar agor rhwng 8am a 6pm o ddyddiau Llun i ddydd Gwener. Mae’r rhain yn Ysgol Gynradd Deri View, Y Fenni ac Ysgol Gynradd Dewstow, Cil-y-coed a chaiff ei drefnu gan weithwyr BywydMynwy a symudwyd o ganolfannau hamdden, llyfrgelloedd, y gwasanaeth ieuenctid a mannau eraill.

Mae Sir Fynwy yn arwain wrth ddefnyddio technoleg ddigidol ac wedi hybu ei enw da yn wyneb pandemig COVID-19. Mae staff yn cynnal cyfarfodydd rhithiol yn llwyddiannus ar draws y sefydliad ac yn cymryd rhan mewn sesiwn Cwtsh Digidol wythnosol lle gallant godi problemau neu faterion o gonsyrn. O fewn dyddiau, bydd y cyngor yn sefydlu 600 arall o gyfrifon technoleg gwybodaeth fel y gall gweithwyr nad ydynt yn medru cyfathrebu’n ddigidol gyda gweithwyr ar hyn o bryd dderbyn negeseuo e-bost a chael mynediad i Hyb Cyfathrebu Coronafeirws Cyngor Sir Fynwy – ffynhonnell o newyddion, gwybodaeth, cyngor da, cwestiynau cyffredin a manylion cyswllt argyfwng – a gaiff ei ddarparu gan Microsoft.

Fel timau eraill, mae swyddogion diogelwch bwyd iechyd yr amgylchedd Sir Fynwy wedi addasu’n dda i weithio o bell o gartref gyda chefnogaeth gan y cyngor ac wedi mwynhau budd dilynol cynnydd mewn ymddiriedaeth a pharodrwydd i helpu. Buont mewn cysylltiad gyda busnesau sy’n dymuno arallgyfeirio neu newid gweithrediad tra bod y pandemig coronafeirws yn parhau i gynnig canllawiau, cyngor a dehongliad o reolau’r llywodraeth.

Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd hefyd wedi apelio i breswylwyr y sir fod yn gymdogion da yn ystod y cyfnod anodd hwn a sicrhau nad yw eu gweithgareddau yn achosi unrhyw ymyrraeth ddiangen. Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am ddiogelu’r cyhoedd: “Gyda phawb ohonom wedi’n cyfyngu i’n cartrefi i raddau helaeth, gofynnir i chi sicrhau fod lefelau cerddoriaeth yn addas ac os ydych yn manteisio ar y tywydd braf i glirio’r ardd, hoffwn ofyn i chi feddwl ddwywaith cyn tanio coelcerth. Mae ansawdd aer da yn hanfodol ar gyfer rhai gyda chyfrwyau anadlol, yn neilltuol ar hyn o bryd, felly os ydych yn bwriadu cynnal coelcerth gwnewch yn siŵr fod y tywydd yn addas, dim ond llosgi deunydd sych a pheidio gadael i’r tân fudlosgi am gyfnodau hir.”

Erbyn dydd Gwener 3 Ebrill roedd y cyngor wedi cyhoeddi gwerth £5.09m o grantiau i 359 busnes a bydd yn ymdrechu i dalu 80% o’r holl grantiau cymwys o fewn tair wythnos. Caiff busnesau nad ydynt wedi eu cofrestru eto eu hannog i wneud hynny’n gyflym fel y gall y cyngor eu cefnogi. Eu cam cyntaf yw gwirio cymhwyster yw ymweld â: https://businesswales.gov.wales/covid-19-grants ac wedyn gofrestru yn https://www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/

Mae tîm Gweithrediadau Priffyrdd Sir Fynwy yn canolbwyntio ymdrechion ar waith brys ac argyfwng yn unig ac ni fyddir yn ymgymryd ag unrhyw gynlluniau cynnal a chadw cynlluniedig nes bod Llywodraeth Cymru yn rhoi caniatâd i godi ei chyfyngiadau. Bydd y tîm yn ymateb i argyfyngau, megis damweiniau traffig ffordd, coed wedi cwympo, ysgubo ffyrdd mewn argyfwng, rhwystrau a pheryglon yn ogystal â chynnal ei wasanaeth gaeaf arferol. Mae hefyd yn cynnig adrannau a chydweithwyr eraill mewn gwaith brys ac argyfwng.

Mae’r cyngor yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru am waith stryd priffyrdd ar gyfer dull gweithredu cydlynus ledled Cymru ac fel canlyniad cafodd llawer o gynlluniau eu gohirio a digwyddiadau eu canslo neu ohirio. Yn ychwanegol, mae cwmnïau cyfleustod yn canolbwyntio ar waith argyfwng ac ymatebol felly gohiriwyd cyfarfodydd rhyngddynt a’r cyngor tan hysbysiad pellach. Mae adroddiad wythnosol y cyngor ar waith ffyrdd o gymorth neilltuol i’r gwasanaethau argyfwng a swyddogion dyletswydd priffyrdd ar y cyfnod hwn.

Mae hybiau cymunedol a llyfrgelloeddd y sir yn parhau ar gau yn unol â chyngor y llywodraeth ond mae staff yn uno gyda thimau eraill ar draws y cyngor i roi cymorth lle mae mwyaf ei angen. Mae’r holl wasanaethau addysg cymunedol yn dal i fod wedi’u gohirio.

Mae staff wedi uwchraddio proses cofrestru llyfrgelloedd yn ddiweddar fel y gall preswylwyr gofrestru ar-lein drwy’r catalog gwasanaeth llyfrgell i gael mynediad ar unwaith i adnoddau digidol megis llyfrau sain ac e-lyfrau sain, cylchgronau a chomics. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwefan gwybodaeth ar-lein llyfrgell y cyngor.

Mae mynwentydd yn Sir Fynwy yn parhau ar agor ond, yn unol â rheoliadau’r llywodraeth, mae angladdau wedi cyfyngu i bump o alarwyr.

Cafodd gyrwyr o Uned Cludiant Teithwyr y Cyngor eu hadleoli i gasglu gwastraff ac ailgylchu yn ogystal â dosbarthu prydau bwyd i’r gymuned ar draws y sir a pharseli o fanciau bwyd Cas-gwent, y Fenni a Chil-y-coed. Bydd yr Uned yn rhedeg gwasanaeth bws am ddim o Frynbuga i Swyddfa’r Post Rhaglan ar ddyddiau Llun yn dilyn cau hyb cymunedol Brynbuga a’i wasanaeth post mewnol. Cafodd y gwasanaeth 65 (Trefynwy i Gas-gwent drwy Dryleg), 75 (Sudbrook – Cil-y-coed – Caerwent) a gwasanaethau dydd Sadwrn W (llwybrau bws lleol Trefynwy) eu hatal dros dro oherwydd diffyg galw ond mae gwasanaeth Grass Routes y cyngor – a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr – yn parhau i weithredu. Dim ond dau deithiwr a ganiateir ym mhob cerbyd i ddarparu ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Hoffwn ddiolch i bawb ar draws y cyngor, yn y sir a’r gweithwyr allweddol hynny sy’n cymryd rhan yn y frwydr yn erbyn coronafeirws. Rydym i gyd yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i gadw gwasanaethau hanfodol i fynd. Yn y cyfamser, er ei bod yn wych fod mwyafrif helaeth preswylwyr yn cydymffurfio â’r angen i aros gartre a chadw’n ddiogel, mae mwyafrif ystyfnig yn dal i fod allan ac o gwmpas. Ni allaf bwysleisio digon y byddai methiant i ddilyn cyngor y llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol yn golygu fod ein gallu i gyfyngu ac yn y pen draw drechu coronafeirws wedi’i leihau’n fawr. Po fwyaf cydwybodol ydym wrth ddilyn cyngor y llywodraeth, y cyntaf y gallwn ddychwelyd i’r normal. Marathon ac nid sbrint yw hyn – bydd yn rhaid i ni gyd wneud newidiadau i’n bywydau am wythnosau lawer i ddod. Mae rhagolygon y tywydd yn edrych yn addawol ar gyfer yr wythnos i ddod ond peidiwch da chi â chael eich temtio i fentro allan. Rwy’n annog pawb i gadw’n ddiogel ac aros gartre i ddiogelu bywydau.”