Skip to Main Content

Cafodd rhwydwaith cynyddol o wirfoddolwyr ar draws Sir Fynwy eu canmol am eu hymdrechion yn ystod epidemig COVID-19.

Cafodd Cyngor Sir Fynwy ei synnu gan holl gefnogaeth a charedigrwydd cymunedau sydd wedi llifo mewn dros y mis diwethaf. Bu gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ar draws y sir yn greiddiol wrth gynyddu cydnerthedd a chefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mae’r cyngor ar hyn o bryd yn gweithio gyda 83 o gydlynwyr arweiniol mewn 60 o grwpiau cymunedol sy’n trefnu eu hunain. Drwy eu cefnogaeth, gallodd gwirfoddolwyr baratoi a dosbarthu 2,647 pryd twym neu fag bwyd yn rhad ac am ddim i bobl mewn angen a’r mwyaf bregus, ac mae’n hysbys fod dros 656 o gwirfoddolwyr wrthi yn helpu eu cymunedau. Mae’r gwirfoddolwyr hyn wedi ateb 2,110 cais am help, gydag un grŵp dan arweiniad gwirfoddolwyr yn ardal Cas-gwent wedi derbyn 1,200 galwad ffôn gan bobl yn edrych am gymorth. Mae’r cynigion o help wedi cynnwys siopa, casglu presgripsiynau, gwneud galwad ffôn cyfeillgar rheolaidd, mynd â chŵn am dro, postio llythyrau, dosbarthu bagiau ailgylchu a hyd yn oed drwsio teledu!

Mae’r tîm Cymunedol a Datblygu Partneriaeth yn parhau i weithio’n agos gyda grwpiau gweithredu gwirfoddol i gynnig cymorth, cyngor a help gyda chydlynu. Caiff hyn ei wneud gan y timau datblygu ardal sy’n cefnogi’r rhwydwaith mawr o grwpiau gweithredu gwirfoddol. Gall y tîm hefyd gynnig gwasanaeth recriwtio diogel i bobl sy’n dymuno gwirfoddoli yn ystod pandemig COVID-19, sy’n cynnwys gwiriad DBS am ddim yn diogelu hyfforddiant a chymorth.

Mae gwaith parhaus y tîm Cymunedol a Datblygu Partneriaeth yn cynnwys:

  • Adeiladu darlun o ofynion gwirfoddolwyr ar gyfer pob un o’n grwpiau gweithredu cymunedol. Mae hyn yn caniatáu cyflwyno gwirfoddolwyr newydd lle’n briodol, yn seiliedig ar angen.
  • Prosesu dros 100 o wirfoddolwyr gyda DBS estynedig, hyfforddiant diogelu a chanllawiau ar wirfoddoli yn ystod pandemig COVID-19. 
  • Cyhoeddi canllawiau i wirfoddolwyr am y gofynion cyfredol am offer diogelu personol.
  • Dosbarthu bathodynnau a laniardau i wirfoddolwyr i’w galluogi i wneud eu dyletswyddau’n ddiogel a heb anhawster.

Dywedodd y Cynghorydd Sheila Woodhouse, Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy: “Mae’r ymdeimlad o ysbryd cymunedol yn Sir Fynwy bob amser wedi bod yn wych ond mae nawr yn well byth ac mae’n amlwg iawn fod pobl yn gofalu am ei gilydd. Y cyfan yr hoffwn ei ddweud yw diolch yn fawr iawn i bawb. Bu pawb yn helpu ac mae eich gweithredoedd wedi parhau i wella bywydau pobl eraill. Awn drwy hyn gyda’n gilydd.”

Gofynnir i breswylwyr sy’n dymuno gymryd rhan mewn grŵp gweithredu lleol neu sydd angen cymorth gan y tîm Cymuned a Datblygu Partneriaeth gysylltu â partnerships@monmouthshire.gov.uk neu 01633 644696.