Skip to Main Content

Mewn ymateb i’r pandemig COVID-19, mae bragdy lleol wedi arallgyfeirio i helpu diwallu anghenion gweithwyr rheng flaen. Yn yr wythnosau diweddar, mae Bragdy Magwyr – Budweiser Brewing Group UK&I wedi cynhyrchu hylif diheintio dwylo yn lle cwrw i helpu mynd i’r afael â phrinder cenedlaethol. Yr wythnos hon cyfrannodd y bragdy ganlyniadau ei waith – 1,000 litr o hylif diheintio dwylo – i dimau gofal cymdeithasol Cyngor Sir Fynwy sy’n gweithio ar draws yr ardal.

Dywedodd Paula Lindenberg, Llywydd, Budweiser Brewing Group UK&I: “Mae’r galw am hylif diheintio dwylo sy’n seiliedig ar alcohol wedi parhau i gynyddu ym Mhrydain ac mae eisoes brinder. Rydym ni yn y Budweiser Brewing Group mor ddiolchgar am ymdrechion arwrol gweithwyr rheng-flaen Prydain, ac yn y cyfnod hwn na welwyd erioed ei debyg rydym eisiau troi ein sylw i gefnogi ymdrechion iechyd cyhoeddus a sicrhau y gall y rhai o’n cwmpas aros yn ddiogel ac yn iach.”

Bydd yr hylif diheintio dwylo yn awr ar gael i dîm Gweithrediadau’r cyngor, fydd yn ei ddefnyddio mewn gofal yn y cartref, gwasanaeth Prydau Mynwy, mewn cartrefi gofal, a gan weithwyr ailgylchu a gwastraff.

“Yn ogystal â’i ddefnyddio fel hylif diheintio dwylo, byddwn hefyd yn ei ddefnyddio i ddiheintio tu mewn cabiau cerbydau rhwng shifftiau, ar orsafoedd gwaith ac mewn safleoedd,” meddai llefarydd Gweithrediadau ar ran y cyngor. “Aiff ymhell i sicrhau ein bod yn darparu amodau diogel ar gyfer y staff hynny y mae angen iddynt weithio yn y gymuned a’r cyhoedd y darparwn wasanaethau ar eu cyfer. Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyfraniad gwych hwn.”