Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud y penderfyniad anodd i atal ei gasgliadau gwastraff gardd o ddydd Gwener 3 Ebrill tan hysbysiad pellach. Mae’r cyngor wedi ymdrechu darparu ei wasanaethau gwastraff ac ailgylchu cyn belled ag sy’n bosibl, ond mae nifer y cydweithwyr o fewn y tîm casglu sy’n gorfod hunanynysu yn sgil y pandemig COVID-19 wedi gwneud y sefyllfa’n gynyddol anodd. Yn ychwanegol, mae’r llywodraeth wedi gofyn am gau gwasanaethau heb fod yn hanfodol er mwyn gwarchod bywydau a gostwng lledaeniad y Coronafeirws.

Mae hyn yn dilyn cau canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi ar draws y sir yr wythnos ddiweddar. Mae’r cyngor wedi ceisio cynnal gwasanaethau eraill cyhyd ag oedd modd ond diogelwch preswylwyr a staff casglu yw’r brif flaenoriaeth. Bydd gostwng gwasanaethau heb fod yn hanfodol yn galluogi’r cyngor i weithredu casgliadau gwastraff blaenoriaeth.

Bydd casgliadau o wastraff gweddilliol, gwastraff bwyd a deunydd ailgylchu yn parhau cyn hired ag sydd modd a bydd rhyddhau cerbydau gwastraff gardd yn helpu i gynnal y gwasanaethau craidd hyn. Ffactorau ychwanegol a arweiniodd at y penderfyniad yw na all archfarchnadoedd storio a dosbarthu bagiau a chynwysyddion gardd yn ddiogel a gall y ffaith fod gwasanaeth partiau rhai gwneuthurwyr wedi cau olygu gostyngiad yn nifer cerbydau’r cyngor sy’n weithredol.

Caiff trwydded cwsmeriaid sydd eisoes wedi talu am y gwasanaeth ei ymestyn pan fydd y gwasanaeth casglu’n dechrau unwaith eto.

Bydd archfarchnadoedd a manwerthwyr eraill yn parhau i stocio bagiau coch, porffor a gwastraff bwyd y cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, aelod cabinet yn gyfrifol am ailgylchu a gwastraff: “Rydym yn ymwybodol iawn mai dim ond newydd dalu am y gwasanaeth casglu gwastraff gardd fydd llawer o gartrefi ac nad yw rhai wedi derbyn eu casgliad cyntaf eto. Nid yw hwn yn benderfyniad a gymerwyd yn ysgafn.

“Ein blaenoriaeth bob amser yw gwarchod bywydau preswylwyr a’n tîm ymroddedig o weithwyr tra byddwn yn cynnal ein gwasanaethau craidd cyhyd ag sydd modd. Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar. Gwnawn bopeth a fedrwn i ailddechrau’r gwasanaeth cyn gynted ag sydd modd.”

Ychwanegodd: “Byddwn yn gofyn i breswylwyr beidio ffonio’r ganolfan alwadau am gasgliadau gwastraff gardd ar hyn o bryd. Mae staff yn brysur iawn yn ateb nifer fawr o alwadau am breswylwyr bregus gyda chyflyrau iechyd. Dywedwyd wrth lawer ohonynt i hunanynysu, felly maent angen cefnogaeth i dderbyn cyflenwadau bwyd a meddygol. Rwy’n sicr y bydd pawb yn deall fod angen rhoi blaenoriaeth i anghenion y bobl hyn.”

Bydd y casgliadau gwastraff gardd yn ailddechrau cyn gynted ag sy’n bosibl.