Skip to Main Content

Mae’r cyngor yn ymwybodol nad yw llawer o fusnesau’n manteisio i’r eithaf ar y cymorth sydd ar gael iddynt.

Os oes gennych safle busnes yn Sir Fynwy gyda gwerth trethiannol o £12,000 neu lai, neu os ydych yn fusnes manwerthu, hamdden neu lletygarwch gyda gwerth trethiannol o £12,001 i £51,000, dylech fod yn cofrestru am grant busnes NAWR. Mae nifer o rai a gofrestrodd yn llwyddiannus eisoes wedi derbyn y cyllid. Os nad ydych yn llenwi’r ffurflen ar-lein, ni fyddwch yn derbyn yr help y gallech fod yn gymwys amdano.

Mae grantiau busnes Llywodraeth Cymru ar gael yn sgil pandemig COVID-19, ond amcangyfrifir nad oes 2,000 o fusnesau yn Sir Fynwy a allai fod yn gymwys wedi llenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein eto.

Os ydych yn derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnes Bach ac nad ydych yn talu trethi busnes, rydych yn dal i fod yn gymwys i gofrestru am y grantiau.

Caiff y grantiau o £10,000 a £25,000 (na fydd angen eu had-dalu) eu gweinyddu gan Gyngor Sir Fynwy a chaiff cofrestriadau eu prosesu cyn gynted ag sydd modd, yn amodol ar wirio.

Ni chaiff y grantiau hyn eu talu i chi yn awtomatig. Rydym angen eich manylion felly cofrestrwch ar-lein.

Eich cam cyntaf fydd gwirio os ydych yn gymwys drwy edrych ar https://businesswales.gov.wales/covid-19-grants ac wedyn gofrestru yn https://www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/  

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau nad ydynt yn gymwys am y grantiau hyn. I gael mwy o fanylion a gwybodaeth am y cymorth arall sydd ar gael https://businesswales.gov.wales/financial-support-and-grants

Os oes gennych fusnes neu’n gwybod am fusnes a allai fod yn gymwys, gweithredwch nawr os gwelwch yn dda.