Skip to Main Content


Gyda Phrydain yn dechrau ar ei phedwaredd wythnos o gyfyngiadau symud, mae Cyngor Sir Fynwy yn parhau i weithredu ddydd a nos i gefnogi cymunedau y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio arnynt. Mae Peter Fox, Arweinydd y Cyngor, wedi annog preswylwyr i gadw’n ddiogel ac aros adre i leihau lledaeniad coronafeirws tra bod staff a gwirfoddolwyr yn gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau fod gwasanaethau allweddol yn parhau i weithredu. Caiff pawb, yn cynnwys y mwyaf bregus yn y gymuned, eu cefnogi ar y cyfnod anodd hwn, er y bu rhai ymyriadau anochel i wasanaethau i alluogi’r cyngor i ganolbwyntio ar gadw preswylwyr y sir yn ddiogel.

Mae Tîm Ymateb Argyfwng y cyngor yn cwrdd yn ddyddiol i asesu’r pwysau ar wasanaethau, ymateb i geisiadau a chefnogi partneriaid lluosog yr awdurdod wrth iddynt leihau effeithiau hyd eithaf eu gallu. Bydd y Tîm yn canolbwyntio ar ganlyniadau tebygol tair wythnos arall o gyfyngiadau symud ar wasanaethau a’r gymuned.

Bu plant gweithwyr allweddol yn derbyn gofal dros wyliau’r Pasg mewn tri hwb – Ysgol Gynradd Deri View, y Fenni, Ysgol Gynradd Rhaglan ac Ysgol Gynradd Dewstow, Cil-y-coed – gan staff o wasanaethau BywydMynwy y cyngor.

Gwelodd y cyfnod dwy wythnos 493 mynychiad gan blant rhwng 4 a 12 oed gyda gofal plant ar gael rhwng 8am a 6pm. Roedd y ddarpariaeth hanfodol yma’n galluogi gweithwyr allweddol i barhau eu gwaith, yn hyderus fod eu plant mewn dwylo da ac yn cael hwyl. Cynigiodd staff BywydMynwy (yn cynnwys datblygu chwaraeon, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr hamdden ac awyr agored) amrywiaeth o weithgareddau o chwaraeon, celf a chrefft ac ysgolion coedwig i weithgareddau adeiladu tîm, y Filltir Ddyddiol, canu a llawer mwy.

Cafodd y tîm lawer o adborth cadarnhaol gan rieni a phlant. Dywedodd un plentyn brwdfrydig, ‘Mae’n hollol wych!’ a rhiant wrth ei bodd gan y cynnydd yn hyder ei phlentyn. Dywedodd, “Diolch i chi am bopeth a wnewch y sicrhau fod y plant yn teimlo’n ddiogel, hapus ac yn cael hwyl”. Trosglwyddodd tîm Bywyd Mynwy gyfrifoldeb yn ôl i staff ysgol heddiw (20 Ebrill) a fydd yn gweithredu o saith hyb ar draws y sir.

Mae tîm safonau masnach y cyngor yn parhau i gefnogi busnesau yng nghyswllt cyfyngiadau cysylltiedig â Covid-19 ac ymateb i gwynion am rai sy’n methu cydymffurfio. Maent hefyd yn cynghori ar offer diogelu personol a gofynion diogelwch, yn arbennig drwy wahardd gwerthu cynnyrch safon isel ac anniogel yn dilyn codi cyfyngiadau ar ofynion arferol.

Mae’r tîm hefyd yn cadw llygad gofalus rhag sgamiau cyfredol. Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am safonau masnach: “Dylai preswylwyr fod yn ymwybodol o weithgaredd twyllodrus yn gysylltiedig â’r pandemig coronafeirws ac rydym wedi cyhoeddi rhybuddion am hyn ar wefan y cyngor: https://www.monmouthshire.gov.uk/trading-standards/  Ychwanegodd: “Mor ddiweddar â’r wythnos hon derbyniodd breswylydd e-bost sgam penodol am ad-daliad treth Cyngor Sir Fynwy ac rwy’n siŵr nad dyma’r unig ddigwyddiad o’i fath. Ni ddylai unrhyw un sy’n derbyn e-bost gan ‘support@covid.gov.uk’ ymateb – ond gofynnir i chi hysbysu ein tîm safonau masnach amdano ar tradingstandards@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01873 735420.”

Yn y cyfamser, mae’ gwasanaeth iechyd anifeiliaid wedi adrodd fod problemau llesiant yn dechrau cynyddu, gydag effeithiau sylweddol ar adnoddau’r cyngor a’r gymuned yn ehangach. Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones: “Mae’n hanfodol y tynnir unrhyw bryderon i’n sylw cyn gynted ag sy’n bosibl ac mae hynny rhai sy’n cadw da byw a all fod yn cael trafferthion am bob math o resymau – po gyntaf y gwyddom, y cyntaf y gallwn helpu a chefnogi.” Gellir cysylltu â’r gwasanaeth iechyd anifeiliaid yn animalhealth@monmouthshire.gov.uk neu drwy ffonio 01873 735420.

Mae safonau diogelwch bwyd y cyngor yn parhau i roi ymateb cyflym i unrhyw broblemau a ddaw i’w sylw ac yn mwynhau cydweithrediad busnesau bwyd. Maent wedi rhoi cyngor ar ymbellhau cymdeithasol a newidiadau mewn deddfwriaeth a chanllawiau fel y cânt eu diweddaru.

Mae swyddogion diogelwch bwyd hefyd yn gweithio’n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnig cefnogaeth yn y sector cartrefi gofal yn ogystal â chydlynu gyda pherchnogion cartrefi gwyliau am gynigion o lety ar gyfer gweithwyr allweddol.

Erbyn dydd Gwener 17 Ebrill, roedd y cyngor wedi cyhoeddi gwerth bron £14m o grantiau Llywodraeth Cymru i roi hwb enfawr i fusnesau lleol, diolch yn rhannol i staff yn gweithio dros benwythnos gwyliau’r banc. Caiff busnesau nad ydynt wedi cofrestru hyd yma eu hannog i wneud hynny’n gyflym fel y gall y cyngor eu cefnogi. Y cam cyntaf i wirio cymhwyster yw mynd i: https://businesswales.gov.wales/covid-19-grants ac wedyn gofrestru yn https://www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/

Mae’r Tîm Cefnogaeth Cymunedol a sefydlwyd i gefnogi’r ymateb lleol i’r pandemig eisoes wedi derbyn 227 cais am gymorth gyda 185 o wirfoddolwyr yn cynnig helpu eu cymunedau. Mae’r tîm yn gweithio gyda 60 o grwpiau gweithredu cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr ac mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn pethau tebyg i siopa bwyd hanfodol, casglu presgripsiynau a chymorth arall seiliedig ar lesiant. Yn ychwanegol, mae gwirfoddolwyr wedi paratoi a dosbarthu dros 2,600 o brydau twym neu becynnau bwyd yn rhad ac am ddim i bobl mewn angen.

Dylai preswylwyr sydd angen cymorth neu sy’n dymuno gwirfoddoli gysylltu â:

partnerships@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644696.

Mae’r pandemig coronafeirws wedi rhoi cryn dipyn o bwysau ar dîm tai y cyngor. Ei flaenoriaeth fydd darparu llety a man diogel ar gyfer cleientiaid digartref a bregus gyda ffocws ar ddynodi opsiynau ar gyfer llety newydd. Mae’r tîm yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner, Llywodraeth Cymru a landlordiaid preifat ac mae wedi gwneud 50 cynnig o lety gan alluogi 41 o symudiadau unigol.

Mae gwasanaeth Careline y cyngor wedi ymelwa ar dechnoleg newydd sy’n parhau i ddarparu larymau heb fod angen i staff fynd i mewn i gartrefi pobl. Ers cyhoeddi’r cyfyngiadau ar symud, mae’r cyngor wedi darparu 24 uned Careline newydd ac wedi mynychu deg galwad cynnal a chadw brys i helpu preswylwyr hŷn i aros yn ddiogel yn eu cartrefi.

Bu cyfathrebu yn ffactor allweddol yn ymagwedd y cyngor at y pandemig. Cyhoeddwyd datganiadau i’r wasg yn rheolaidd gyda chyngor a gwybodaeth ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter y cyngor. Mae Paul Matthews, y Prif Weithredwr, wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i staff gyda bwletinau dyddiol ac anfonodd y Cynghorydd Sheila Woodhouse, Cadeirydd y Cyngor, neges at breswylwyr adeg y Pasg. Mae Peter Fox, Arweinydd y Cyngor, wedi ymddangos mewn nifer o fideos gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y diweddaraf mae wedi annog preswylwyr i gymryd pob mesur gofalu yn erbyn coronafeirws. Dywedodd:

“Diolch am bopeth a wnaethoch dros y pedair wythnos anodd ddiwethaf. Mae mor bwysig aros adre ac mae’n gwneud gwahaniaeth go iawn – heb y gweithredu yma, byddai ein hysbytai wedi eu llethu.”

Ychwanegodd: “Bydd angen i ni barhau â’r cyfyngiadau ar symud am ychydig wythnosau eto. Bydd hyn yn anodd, ond mae’n hanfodol nad ydym yn rhoi’r gorau iddi nawr. Ni allwn adael i’r feirws ledaenu ymhellach. Mae’n rhaid i ni ei gadw dan reolaeth a’r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy gadw ymbellhau cymdeithasol, cadw at y rheolau, aros adre ac achub bywydau. Gyda’n gilydd, gallwn drechu hyn.”