Skip to Main Content
pupil at school

Bu Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yng Nghas-gwent yn nodi Dydd Gŵyl Dewi gydag eisteddfod yn arddangos talentau myfyrwyr a dathlu eu hymdeimlad o berthyn i Cymru.

Cynigiodd pob dosbarth ddwy gân, gwaith celf neu gerddi, gyda’r dosbarth derbyn yn cymryd rhan mewn drama fer. Yn dilyn cyfarwyddyd gan Wasanaeth Cymorth Cerddoriaeth Gwent, rhoddodd myfyrwyr Blwyddyn Pump berfformiad ar chwibanau tun tra bu eu cyd-ddisgyblion o Flwyddyn Chwech yn canu unawdau. Roedd yr holl ddisgyblion a staff yn gwisgo coch ar wedd crysau rygbi a phêl-droed yn ogystal â gwisg draddodiadol i ychwanegu lliw at ddigwyddiadau’r dydd.

Daeth eisteddfod yr ysgol i ben yn y dull traddodiadol gyda’r anthem genedlaethol Hen Wlad fy Nhadau.

Dywedodd Joanne Weightman, pennaeth yr ysgol: “Roedd hwn yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn a gwnaeth pawb oedd yn cymryd rhan  a’r gynulleidfa ei fwynhau’n fawr. Roeddem yn falch iawn i gario ymlaen gyda’r traddodiad o gynnal eisteddfod i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda pherfformiadau gwych gan ein myfyrwyr.”

Mae’r adroddiad mwyaf diweddar ar gyfer Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yn dangos fod staff, llywodraethwyr a holl gymuned yr ysgol wedi gweithio’n galed dan arweinyddiaeth Mrs Weightman i ddatblygu gweledigaeth a gaiff eu rhannu gyda newidiadau wedi eu gweithredu yn nhermau’r amgylchedd dysgu, darpariaeth, cynllunio a datblygu yr ethos Gymreig. Mae effaith y newidiadau hyn eisoes yn dechrau bod yn amlwg.

Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Aelod Cabinet Sir Fynwy dros Blant a Phobl Ifanc: “Mae’n wych gweld bod Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yn gwneud cynnydd da ar ei daith tuag at wella.”