Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyhoeddi rhybudd i gadw golwg am dwyllwyr sy’n targedu’r cyhoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Mae twyllwyr yn gynyddol yn targedu’r cyhoedd a sefydliadau gyda negeseuon e-bost, negeseuon testun, galwadau ffôn a negeseuon WhatsApp yn cynnig cyngor a thriniaeth ar gyfer Coronafeirws, yn ogystal â sefydlu gwefannau ffug yn gwerthu cynnyrch a chynnig ‘iachâd’.

Bu sgamwyr hefyd yn sefydlu gwefannau ffug yn gofyn am gyfraniadau ar gyfer dioddefwyr neu’n hyrwyddo cynghorion ar ymwybyddiaeth ac ataliaeth. Mae galwyr wedi bod yn cysylltu â sefydliadau yn awgrymu fod yn rhaid iddynt gael mesurau neilltuol yn eu lle erbyn dyddiad cau penodol.

I helpu aelodau’r cyhoedd ddiogelu eu hunain rhag twyll mae Cifas, Gwasanaeth Atal Twyll y Deyrnas Unedig, yn cynghori:

·        Byddwch yn amheus os ydych yn cael neges e-bost, neges destun neu neges WhatsApp am y Coronafeirws, a pheidiwch byth â chlicio ar unrhyw atodiadau neu ddolenni.

·        Peidiwch byth roi data personol tebyg i’ch enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni – gall sgamwyr ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddwyn eich hunaniaeth

·        Peidiwch gadael i’ch hunan gael eich rhoi dan bwysau i gyfrannu arian a phediwch byth wneud cyfraniadau gydag arian parod neu gerdyn rhodd, neu anfon arian drwy asiantau trosglwyddo tebyg i Western Union neu Moneygram

·        Os credwch eich bod wedi dioddef sgam, yna siaradwch ar unwaith gyda’ch banc a hysbysu Action Fraud ar 0300 123 2040

·        Gallwch gael mwy o wybodaeth ar ddelio gyda sgamiau a thwyll drwy ffonio rhif ffôn Gwasanaeth Defnyddwyr rhif 0808 223 1133, neu gysylltu â Cyngor ar Bopeth.

Mae Safonau Masnach Cymru yn cynghori preswylwyr i gysylltu â’u Cyngor lleol i gael gwybodaeth am wasanaethau a chymorth yn eu hardal.Hide message historyKK