Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi diweddaru ei gynllun corfforaethol ‘Sir Fynwy sy’n gweithio i bawb’. Mae’r cynllun corfforaethol diwygiedig yn ailddatgan diben y cyngor o feithrin cymunedau cynaliadwy a chryf. Gyda gwleidyddion lleol hanner ffordd drwy eu tymor yn eu swyddi, mae hyn yn gyfle i fwrw golwg ar rai o’r pethau a gyflawnwyd hyd yma a dynodi nifer o ymrwymiadau newydd. Mae rhai o’r ymrwymiadau newydd yn cynnwys: • gostwng allyriadau carbon y cyngor i fod yn net ddi-garbon erbyn 2030 a gweithio gyda chymunedau • cwblhau ail gam astudiaeth trafnidiaeth Cas-gwent, gan gymryd camau gweithredu yn seiliedig ar y canfyddiadau; • creu cynlluniau ar gyfer ailddatblygu canol trefi Brynbuga a Chil-y-coed a dechrau trafodaethau ar gynlluniau ar gyfer Trefynwy a Chas-gwent. Er bod yr awdurdod lleol sy’n derbyn y cyllid isaf yng Nghymru fesul pen o boblogaeth, mae’r cynllun yn dangos uchelgais gwirioneddol ac yn canolbwyntio ar flaenoriaethau polisi fydd yn cyflawni diben y cyngor, gan weithio’n effeithiol ac effeithlon tra’n cynllunio ar gyfer dyfodol hirdymor Sir Fynwy. Wrth siarad ar ôl i cynghorwyr gytuno ar y cynllun dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cynllun Corfforaethol yn ddogfen wirioneddol bwysig sy’n rhoi cyfeiriad a dyma’n ffordd ni o sicrhau fod ein ffocws ar gyflawni’r hyn sy’n cyfrif i bobl Sir Fynwy. Mae llawer o’r pethau a wnawn yn anhygoel o uchelgeisiol ac yn canolbwyntio ar ddyfodol hirdymor ein sir tebyg i’r ymrwymiad i symud tuag at ddim allyriadau carbon net erbyn 2030. “Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys ymrwymiadau newydd, tebyg i adfywio canol trefi ac ail gam astudiaeth trafnidiaeth Cas-gwent. Rwy’n neilltuol o falch o’r gefnogaeth sydd ynddo ar gyfer busnesau gwledig tebyg i welliannau mewn band eang gwledig a gweithredu fel man prawf ar gyfer defnyddiau gwledig o 5G mewn sectorau fel twristiaeth ac amaethyddiaeth.” Mae’r cynllun corfforaethol hefyd yn nodi sut y bydd y cyngor yn cyflawni ei ofynion dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gall preswylwyr lawrlwytho copi o’r cynllun ar wefan y cyngor yn https://www.monmouthshire.gov.uk/improvement/ Gallant hefyd ymuno yn y trafodaethau ar twitter @monmouthshireCC.