Skip to Main Content

Cyngor Sir Fynwy yn gweithio’n “ddi-baid” i ddarparu gwasanaethau drwy’r pandemig Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos i gefnogi cymunedau y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio arnynt. Gyda phreswylwyr wedi eu hannog i gadw’n ddiogel ac aros adre i leihau lledaeniad y Coronafeirws, mae cynghorwyr, staff a gwirfoddolwyr yn gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau fod gwasanaethau allweddol yn parhau i weithredu. Caiff pawb, yn cynnwys y preswylwyr mwyaf bregus yn y gymuned, eu cefnogi ar y cyfnod anodd hwn er ei bod yn anochel y bu peth ymyriad ar wasanaethau er mwyn galluogi’r cyngor i ganolbwyntio ar gadw preswylwyr y sir yn ddiogel. Mae gofalwyr cartref yn parhau i ymweld â phobl a darparu’r gofal angenrheidiol, a chaiff prydau bwyd eu dosbarthu i roi cynhaliaeth a wyneb cyfeillgar i breswylwyr mewn angen. Darperir prydau ysgol am ddim i sicrhau fod cinio maethlon ar gael bob dydd i fyfyrwyr cymwys. Nid oes unrhyw newid i wasanaethau casglu sbwriel ac mae’r cyngor wedi gofyn i breswylwyr ailgylchu cymaint ag sy’n bosibl. Bydd pob canolfan ailgylchu gwastraff cartrefi a’r Siop Ailddefnyddio yn Llan-ffwyst ar gau tan hysbysiad pellach. Yn ogystal, cafodd cofrestriadau newydd ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd a’r gwasanaeth casglu gwastraff swmpus eu gohirio. Bydd rhai siopau ac archfarchnadoedd lleol yn stocio bagiau ailgylchu Sir Fynwy i breswylwyr eu casglu. Mae pob ysgol ar gau a sefydlwyd saith hyb gweithwyr allweddol i ddarparu gofal plant i weithwyr allweddol. Mae’r rhain yn Ysgolion Cynradd Deri View a Llan-ffwyst yn y Fenni, Ysgol Gynradd Dewstow yng Nghil-y-coed, Ysgol Gynradd Rogiet, Ysgol Gynradd Thornwell yng Nghas-gwent, Ysgol Gynradd Overmonnow yn Nhrefynwy ac Ysgol Gynradd Rhaglan. Dywedodd y Cynghorydd Richard John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y gwaith sy’n mynd rhagddo ar draws Sir Fynwy i gefnogi plant gweithwyr allweddol a’n dysgwyr bregus. Mae hwn yn gyfnod eithriadol a bydd y ffordd y gwnawn hyn yn newid a datblygu yn y dyddiau i ddod, ond rydym yn ymroddedig i ddarparu’r gefnogaeth mewn ffordd gydnerth a chynaliadwy.” Mae’r cyngor wedi annog trethdalwyr i gysylltu os cânt anhawster yn talu eu treth gyngor – gall fod yn bosibl lledaenu rhandaliadau dros 12 mis i ostwng taliadau misol neu ohirio taliadau dechreuol hyd ddyddiad diweddarach. Gall hefyd edrych ar yr hawl posibl i ostyngiad yn y Dreth Gyngor a phrydau ysgol am ddim i’r rhai sydd ar incwm isel neu sy’n derbyn budd-daliadau megis y Credyd Cynhwysol. Mae’r cyngor yn cynorthwyo busnesau drwy gynnal rhediadau talu dyddiol ac yn talu pob anfoneb ar y dyddiad y caiff ei chymeradwyo yn hytrach na phan ddaw yn ddyledus, gan felly sicrhau fod cyflenwyr yn derbyn eu harian cyn gynted ag sydd modd. Mae hefyd wedi cyhoeddi cylchlythyr ar ei wefan i gynghori busnesau sut y gallant helpu i alluogi anfonebau i gael eu talu’n gyflym. Bydd y cyngor yn gweinyddu grantiau busnes Llywodraeth Cymru ac yn eu prosesu cyn gynted ag sydd modd. Cynghorir busnesau’r sir i wirio os ydynt yn gymwys drwy ymweld â gwefan grantiau busnes COVID-19 Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig arweiniad ar gymorth ariannol ar gyfer busnesau nad ydynt yn gymwys am y grantiau hyn. Gall y rhan fwyaf o fusnesau gyda gwerth trethiannol o rhwng £12,000 a £51,000 dderbyn cymorth ar gyfer pob safle. Gall busnesau gyda gwerth trethiannol o £12,000 neu lai dderbyn cymorth, gydag uchafswm o ddau safle. Caiff busnesau eu hannog i anfon eu manylion drwy’r ffurflen ar-lein ar wefan y cyngor i sicrhau fod yr wybodaeth yn gyfredol. Mae hybiau cymunedol y cyngor yn y Fenni, Trefynwy, Cas-gwent, Cil-y-coed a Brynbuga i gyd ar gau, yn ogystal â Llyfrgell Gilwern. Cafodd yr holl wasanaethau addysg gymunedol hefyd eu hatal dros dro. Mae canolfannau croeso Sir Fynwy, ar gau, ond medrir cyrraedd y gwasanaeth dros y ffôn a thrwy e-bost: • Canolfan Croeso y Fenni – abergavennytic@yahoo.com – 07854 997541 • Canolfan Croeso Cas-gwent – Chepstow.tic@monmouthshire.gov.uk – 01291 623772 Mae gwybodaeth gynhwysfawr i ymwelwyr ar gael ar wefan VisitMonmouthshire.com ond neges allweddol y cyngor ar gyfer darpar ymwelwyr yw: ‘Peidiwch ag ymweld â Sir Fynwy ar hyn o bryd os gwelwch yn dda. Arhoswch yn ddiogel adre, a byddwn yma gyda chroeso cynnes pan fydd hyn i gyd drosodd. Breuddwydiwch nawr, Ymwelwch yn nes ymlaen.’ Mae staff swyddfa yn gweithio o bell drwy system timau Microsoft. Mae canolfan gyswllt y cyngor wedi derbyn cymaint o alwadau fel y cafodd mwy o staff eu symud i weithio i’r maes hwn i roi cefnogaeth. Mae’r cyngor wedi sefydlu tîm ymateb argyfwng sy’n cwrdd bob dydd i drin materion fel y maent yn codi, a darparwyd gwybodaeth i’r cyhoedd drwy adran benodol ar y wefan – https://www.monmouthshire.gov.uk/services/planning-for-emergencies/coronavirus/ – yn ogystal â sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter. Caiff pob adeilad sydd ar gau eu rhestru ar: https://www.monmouthshire.gov.uk/building-closures/ Mae tîm trwyddedu y cyngor wedi sicrhau fod tafarndai a bwytai wedi cau yn unol â pholisi’r Llywodraeth. Mae hefyd wedi cau safleoedd tacsi y sir. Mae nosweithiau oer wedi golygu y bu timau graeanu’n brysur yn teithio ar hyd ffyrdd y sir i sicrhau eu bod yn ddiogel i fodurwyr. Mae hyn yn neilltuol o bwysig i weithwyr allweddol a’r gwasanaethau argyfwng sydd angen iddynt yrru i gyflawni eu dyletswyddau. Mae holl ganolfannau hamdden BywydMynwy yn y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy ar gau ac ni chymerir unrhyw dâl gan aelodau debyd uniongyrchol tra’u bod yn parhau ynghâu. Yn ychwanegol, cafodd aelodaeth ei rewi’n awtomatig fel na effeithir ar gwsmeriaid. Mae BywydMynwy hefyd wedi creu sianel YouTube – https://www.youtube.com/channel/UCJuPmBPWvKE2IkAznwMMiSA – fydd yn rhoi sylw rheolaidd i fideos yn hyrwyddo ffitrwydd. Mae clybiau ieuenctid a chanolfannau ieuenctid BywydMynwy hefyd ar gau ond bydd gweithwyr ieuenctid yn dal i fod ar gael ar-lein i gynnig y gefnogaeth a gwybodaeth angenrheidiol. Gall pobl ifanc a’u teuluoedd gysylltu â nhw yn defnyddio’r ffurflen ar-lein: https://www.monlife.co.uk/youth-digital-support-form/ Dywedodd Peter Fox, Arweinydd y Cyngor: Mae pandemig COVID-19 wedi cyflwyno argyfwng eithriadol a digynsail i ni ond rwy’n falch o sut mae pob ardal yn gweithio i’w heithaf i gefnogi pobl. Mae gweithwyr allweddol yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a hoffwn ddiolch i’r holl weithwyr cyflogedig yn ogystal â gwirfoddolwyr am eu hymdrechion diflino i’n cadw’n ddiogel. Mae’n wych gweld y nifer fawr o grwpiau gwirfoddol sy’n cael eu sefydlu ym mhob rhan o’r sir. Os hoffai unrhyw un gymryd rhan, cysylltwch os gwelwch yn dda â: partnerships@monmouthshire.gov.uk “Mae hwn yn amser mor bryderus i bobl. Rwy’n meddwl amdanoch a rydym yma i’ch cefnogi. Mae cyngor cynhwysfawr ar gyfer busnesau ar gael yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/. Os oes unrhyw un yn pryderu am eu treth gyngor, gallwch ganfod gwybodaeth yn: https://www.monmouthshire.gov.uk/council-tax-advice/ “Hoffwn hefyd ddiolch i fwyafrif helaeth preswylwyr, busnesau a sefydliadau Sir Fynwy sydd wedi addasu i’r cyfnod anodd iawn hwn drwy aros adre a chadw ymbellhau cymdeithasol. Daliwch ati i gadw’n ddiogel ac aros adre fel y gallwn gyda’n gilydd drechu COVID-19”.